Category Archives: 2017 Archive

Dwy Daith Gerdded ‘Gacennau’

 

Dydd Sul 21ain Mai, 2017

Dwy Daith Gerdded ‘Gacennau’

Taith gerdded hamddenol ar hyd Ffordd Gower i’r bont grog dros Afon Conwy, ac yn ôl, mewn pryd i ymuno yn y Ffair Gacennau am 4 y.p.

Os bydd hi’n sych mae posibilrwydd o gerdded yn ôl ar y Cob (mae’n wastad, ond mae nifer o giatiau) i edrych ar yr ardal bywyd gwyllt newydd a’r hen Gei.  Hefyd bydd cyfle ar y ddwy daith i glywed oddi wrth drigolion lleol am ddylanwad yr afon ar hanes lliwgar y pentref.

Mi fyddwch chi’n ôl mewn pryd i ymuno yn y ‘Cake Fest’ am 4 y.h. !

Hyd: Prynhawn 1 – 2 awr o gerdded hamddenol

Pellter: Hyd at km / 2.5 filltir

Gradd: Hawdd

Cyfarfod: 1.45 y.p. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:   Colin Devine, Arweinydd Teithiau Cerdded efo Cerdedd Conwy Walks
                                   a Fred Dillion

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Does dim rhaid bwcio tocyn, ond gwnewch yn siwr eich bod wedi darllen yr amodau a thelerau sydd yn dal yn berthnasol i bob taith gerdded.

O Fetws-y-coed i Drefriw

 

Dydd Gwener 19eg Mai, 2017

O Fetws-y-coed i Drefriw

Byddwn yn teithio i fyny Dyffryn Conwy o Drefriw i Fetws-y-coed ar gludiant cyhoeddus, i gychwyn y daith gerdded yn ôl i Drefriw ar y bryniau uwchben Dyffryn Conwy. Mae hon yn daith odidog, a cheir golygfeydd ardderchog o’r bryniau o gwmpas, gan gynnwys mynyddoedd Eryri. Hefyd byddwn yn ymweld â nifer  o lynnoedd a safleoedd hanesyddol ar y llwybr yn ôl i Drefriw.

Hyd:  6 awr.      Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  11 km / 7 milltir

Gradd:  Cymedrol

Cyfaddasrwydd:  Pawb sydd yn weddol heini

Cyfarfod :  10.15  y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i ddal cludiant cyhoeddus i Fetws-y-coed

(Bydd rhaid i chi brynu tocyn bws, oni bai bod gynnoch chi bas)

Arweinwyr : John Barber a Dave Prime, arweinydd efo Cerdded Conwy Walks

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - Betws-y-coed to Trefriw

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Taith Gerdded i Fore-godwyr

 

Dydd Sadwrn 20fed Mai, 2017

Cyfle i fwynhau côr y bore bach ar daith gerdded gynnar

Mwynhewch gôr y bore bach o gwmpas ymylon Coedwig Gwydir efo gwylwyr dar lleol. Bydd y daith yn cynnwys coetir a thorlan, a byddwch yn dysgu sut i adnabod adar wrth eu cân.  Cyflymdra hamddenol, ond bydd rhai mannau byr yn garw ac yn serth.  Efallai bydd hi’n wlyb dan draed mewn mannau.  Gwisgwch esgidiau cerdded, a basai binocwlars yn ddefnyddiol.

Hyd:  2.5 awr

Pellter:  5 km / 3 milltir

Gradd:  Cymedrol

Cyfarfod:  5.45 y.b. ym mhrif maes parcio Trefriw (LL27 0JH, SH781631) (gyferbyn â’r Felin Ŵlan)

Gorffen:  8.30 y.b. (efo brecwast dewisol wedyn yn y caffi yn y pentref, ar eich traul eich hun)

Arweinyddion:    Joan Prime, arweinydd teithiau efo Cerdded Conwy Walks, ac Alan Young

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - Early Bird Walk

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Trywydd y Chwedlau

 

Dydd Gwener 19eg Mai, 2017

Trywydd y Chwedlau

Byddwch yn y grŵp cyntaf i gerdded y trywydd newydd hon, a lansir yn yr Ŵyl Gerdded fel rhan o Flwyddyn  Chwedlau yng Nghymru.  Mae’r daith yn mynd trwy Lanrwst, Gwydir, Llanrhychwyn, Geirionydd a Chrafnant.

Arluniwyd y Trywydd hwn i fod yn daith gerdded hunan-dywys, felly dyna fydd hi!  Chi fydd yr arweinion!  Cewch gopi o’r cerdyn Trywydd, sy’n cynnwys map, cyfeiriadau llawn, a phytiau o wybodaeth am y chwedlau.  (Mae’r cardiau hefyd yn dangos lle mae modd cwtogi’r trywydd er mwyn dychwelyd yn gynnar.)

(d.s.  Peidiwch â deud wrth neb, ond os ewch chi ar y daith hon, mi fyddwch chi mewn sefyllfa gref os penderfynwch chi roi cynnig ar ein Cwis Chwedlau, fydd yn rhedeg trwy’r Ŵyl,  Ceith enillydd y cwis gopi o’r Llyfr Chwedlau newydd ddydd Sul yn ystod y Ffair Gacennau.)

 

Hyd:   Trwy’r dydd – 5 awr.   Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  14 km / 9 milltir

Gradd :   Cymedrol

Cyfarfod:  10.30 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - The Legends Trail

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

 

Hen Dramffyrdd yng Ngodrau’r Carneddau

 

Dydd Gwener 19eg Mai, 2017

Hen Dramffyrdd yng Ngodrau’r Carneddau

Byddwn ni’n mynd mewn bws mini i fyny’r allt serth o Drefriw i Gwm Cowlyd anghysbell, cyn cerdded dros y bryn am 1.5 milltir i Gwm Eigiau.  Byddwn ni’n cerdded wedyn ar hyd Tramffordd Eigiau a Thramffordd Cowlyd yn ôl i’n man cychwyn.  Byddwn yn dychwelyd i Drefriw ar droed.

Bydd llawer o hanes lleol am y tramffyrdd hyn a’u hargaeau.

Mae’r ardal hon yng Ngodre’r Carneddau yn anghysbell.  Gwnewch yn siwr bod gynnoch chi ddillad addas, h.y. dillad gwrth-ddŵr a chynnes, ac esgidiau cerdded da.

Hyd:  Trwy’r dydd  –  6 awr.     Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  16 km / 10 milltir

Gradd:  Cymedrol/caled

Cyfarfod:  9.30 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion: Tony Ellis, awdur pedwar llyfr cerdded lleol, a Warden Gwirfoddol ar yr Wyddfa

                                 Colin Boyd, arbenigwr mewn Addysg Awyr Agored

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - Old Tramways in the Carneddau Foothills

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

 

Giamocs Geirionydd – Llyn Chwedlau

 

Dydd Gwener 19eg Mai, 2017

Chwedl Taliesin a Geirionydd

2017 ydy Blwyddyn Chwedlau yng Nghymru.  Mae hon yn daith gerdded hamddenol trwy’r goed uwchben Dyffryn Crafnant i fyny i Lyn Geirionydd a chofeb Taliesin (ac yn ôl). Bydd chwedlwraig broffesiynol Fiona Collins (awdures ‘Folktales of North Wales for Children’ a theitlau eraill) yn ymuno â ni, ac yn adrodd storiau ynglŷn â Taliesin.

Hyd:  3 awr.    Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  6.5 km / 4 milltir

Gradd:  Hawdd/cymedrol

Cyfarfod:  10.15  y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinwyr:    Karen Black, Cymdeithas Hanesyddol Trefriw

                             a Colin Devine, Arweinydd Teithiau Cerdded efo Cerdedd Conwy Walks

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - The Taliesin Legend at Geirionydd

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded

Dysgwch Rap!

 

Dydd Gwener 19eg Mai, 2017

Dysgwch rap!

SYLWER – NID TAITH GERDDED MO HWN.

2017 ydy Blwyddyn Chwedlau yng Nghymru.  Bydd bardd/cerddwr proffesiynol Martin Daws yn troi chwedl leol yn rap!  (Martin oedd Awdur Llawryfog Pobl Ifanc Cymru 2013 – 2016.)

Cynulleidfa darged y sesiwn hon ydy oedolion.  (Mae ‘na sesiwn i deuluoedd ddydd Sadwrn.)

Gobeithio y perfformir recordiad o’r rap yn y Ffair Gacennau, dydd Sul, am 4 y.p.!

Hyd: 1.5 awr

Cyfarfod: 10.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

(Lleoliad y digwyddiad hwn fydd yr ystafell ddigwyddiadau yn Nhafarn y Fairy Falls.)

 

Archebu:  I archebu lle yn y diwyddiad hwn, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - Learn a Legend Rap  (Friday session)

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded neu weithgaredd.

Taith Gerdded ioga/ymwybyddiaeth ofalgar

 

Dydd Gwener 19eg Mai, 2017

Taith Gerdded ioga/ymwybyddiaeth ofalgar  (prynhawn)

Taith gerdded fyfyriol fer (45 munud) o Gapel Gwydir Uchaf (2 filltir o Drefriw) ar hyd Llwybr yr Arglwyddes Mair, ar ymyl Coedwig Gwydir.  Bydd ‘na sesiwn fer o ioga/fyfyrdod cyn ac ar ôl y daith hon.

Hyd:  1.5 awr

Pellter:  2 km / 1.5 filltir

Gradd:  hawdd

Cyfarfod:  1.15 y.p. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i rannu ceir i Gapel Gwydir Uchaf (2 filltir o Drefriw)

Arweinyddion:  Gwen Parri, athrawes ioga,  a Pam Boyd

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - A Short Yoga Walk

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded

Blodau’r Gwanwyn yn Nhŷ Hyll

 

Dydd Gwener 19eg Mai, 2017

Blodau’r Gwanwyn yn Nhŷ Hyll, ger Capel Curig

Fel rhan o ddathliadau 50 mlynedd Cymdeithas Eryri, rydym wedi ymuno â nhw i gyflwyno’r daith gerdded hon:

Taith gerdded hamddenol o gwmpas yr ardd a choed ar diroedd Tŷ Hyll, efo cyfle i glywed am hanes a chwedlau’r adeilad rhyfeddol hwn, ar y cyd â’r planhigion sydd i’w gweld yma, gan gynnwys rôl bwysig Cymdeithas Eryri mewn sicrhau ei ddyfodol fel lle i arddangos planhigion i beillwyr (pollinators), ac ar gyfer gweithgareddau addysgol a cadwraeth eraill.

Hyd:   Tua 3 awr, gan gynnwys amser rhydd i fwynhau’r ardd, neu i brynu te a chacen!

Pellter:   1.5 km / 1 filltir

Gradd:  Hawdd

Cyfarfod:  1.00 y.p. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i ddal bws mini i Dŷ Hyll ac yn ôl.

Arweinyddion:   Margaret Thomas, ymddiriedolwr Cymdeithas Eryri

                                   a Joan Prime, Arweinydd Teithiau Cerdded efo Cerdedd Conwy Walks

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - Spring Flowers at Tŷ Hyll (The Ugly House)

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Taith Gerdded uchel yn y Carneddau

 

Dydd Sadwrn 20fed Mai, 2017

Pedol Eigiau – Taith Gerdded uchel yn y Carneddau

Fel rhan o ddathliadau 50 mlynedd Cymdeithas Eryri, rydym wedi ymuno â nhw i gyflwyno’r daith gerdded hon:

Bydd y daith gerdded mynydd heriol hon – o’r enw Pedol Eigiau – yn cychwyn a gorffen yn y maes parcio yng Nghwm Eigiau (bydd bws mini yn mynd â chi yno).  Byddwch yn cerdded i gopâu Foel Grach a Charnedd Llewelyn (dros 3000′), a hefyd i gopaon Pen Yr Helgi Du a Pen Llithrig y Wrach.

Dydy’r llwybr hwn ddim yn dilyn llwybrau amlwg bob tro.  Sylwer hefyd bod ‘na rannau sydd yn agored, ac mewn cwpl o fannau bydd rhaid defnyddio dwylo.

I gyd bydd ‘na ryw 3500’ (1100m) of esgyniad, felly dylai fod ‘na olygfeydd gwych – os bydd y cymylau yn uchel; ond sylwer bod hi’n debyg ceith y llwybr ei newid/fyrhau os na fydd y tywydd yn ffafriol.

Gwnewch yn siwr bod gynnoch chi ddillad addas, h.y. dillad gwrth-ddŵr / gwrth-wynt, dillad cynnes, ac esgidiau cerdded da.

Hyd:   Trwy’r dydd –  8 awr.    Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  15 km / 10 milltir

Gradd:  Taith Fynydd Galed

Cyfaddasrwydd:   Cerddwyr profiadol a heini

Cyfarfod:  8.45  y.b. yn  Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i gael cludiant i fan cychwyn y daith

Leader:    Keith Hulse, o Snowdonia Walker, ac Arweinydd Teithiau Cerdded efo Cymdeithas Eryri
                      a Colin Devine, Arweinydd Teithiau Cerdded efo Cerdedd Conwy Walks

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - High Mountain Walk in the Carneddau

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Deg Llyn

 

Dydd Sadwrn 20fed Mai, 2017

Deg Llyn

Diwrnod llawn fydd yn mynd â ni i Goedwig Gwydir er mwyn ymweld â 10 llyn sydd yn yr ardal.

Y daith gerdded hon ydy’r un hiraf yn yr Ŵyl Gerdded eleni.

Gan gychwyn a gorffen efo Llynnoedd Geirionydd a Chrafnant, y llynnoedd mwyaf adnabyddus yn yr ardal, bydd y daith hir hon yn ymweld â 10 llyn yng Nghoedwig Gwydir.  Mae gan lawer ohonynt gysylltiad efo mwyngloddiau metel yr ardal.  Mae’r llwybrau hefyd yn pasio trwy rannau uchel o’r goedwig sydd â golygfeydd gwych o’r mynyddoedd.  Byddwn yn cerdded ar gyflymdra hamddenol, ac yn defnyddio llawer o lwybrau da yn y goedwig.  Gradd y daith ydy “Cymedrol / Caled” dim ond oherwydd ei hyd. Byddwn ni’n pasio toiledau ar ôl 2½ milltir, 10½ milltir a 12½ milltir.

Hyd:  Trwy’r dydd 7 – 8 awr o gerdded.    Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  24 km / 15 milltir

Gradd:  Cymedrol/caled

Cyfarfod:  9.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:  Tony Ellis, awdur pedwar llyfr cerdded lleol, a Warden Gwirfoddol ar yr Wyddfa

                                  Colin Boyd, arbenigwr mewn Addysg Awyr Agored

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - Ten Lakes

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Taith Gerdded Ffotograffiaeth

 

Dydd Sadwrn 20fed Mai, 2017

Taith Gerdded Ffotograffiaeth

Taith gerdded trwy dir coediog, gan ymweld â rhaeadrau a dau lyn hardd, wedyn i fyny tuag at y bryniau. Bydd Nick Livesey wrth law i gynnig cyngor arbennig ar ffotograffiaeth tirlun, ac i ateb cwestiynau am hanes a daeareg yr ardal.

Hyd:  6 awr.     Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  9.5 km / 6 milltir

Gradd:  Cymedrol

Cyfarfod:  9.30 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinydd:  Nick Livesey, Ffotograffydd tirlun dawnus
                           a Chris Shaw, cyn-Uwch Hyfforddwr yn The Towers Outdoor Centre

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - Photography Walk

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Tylluan Cwm Cowlyd

 

Dydd Sadwrn 20fed Mai, 2017

Tylluan Cwm Cowlyd

Bydd bws mini yn mynd â ni i Gapel Curig, wedyn byddwn yn cerdded yn ôl i Trefriw trwy Gwm Cowlyd, sy’n lle anghysbell lle bu’r Hen Dylluan Ddoeth yn byw yn storiau’r Mabinogi.  Mae ‘na chwedau eraill ynglwm â’r ardal hefyd.

Bydd y daith gerdded ‘ymysg y mynyddoedd’ hon yn cynnig golygfedd da o’r Glydrau a’r Carneddau.  Wedi cerdded hyd y dyffryn, byddwn yn dychwelyd i Drefriw trwy Ribo a Choed Creigiau.

Hyd:  Trwy’r dydd  – 5 awr.      Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  16 km / 9.5 milltir

Gradd:  Caled

Cyfarfod:  9.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631), i gael cludiant i Gapel Curig, man cychwyn y daith

Arweinyddion:  Karen Black, Cymdeithas Hanesyddol Trefriw

                                 a Brian Miller

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - The Owl of Cwm Cowlyd

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Chwilota mewn Nature i Deuluoedd

 

Dydd Sadwrn 20fed Mai, 2017

Chwilota mewn Nature i Deuluoedd

Mae hon yn daith gerdded efo gweithgareddau i’r teulu, a fydd yn cyfuno gemau amgylcheddol a gweithgareddau efo dysgu mwy am chwedlau’r ardal a’i hanes dynol a naturiol.

Byddwn yn cerdded o Drefriw i Ddyffryn Crafnant trwy gaeau a choedydd llawn clychau’r gog, lle byddwn yn chwilio am fywyd yn y nentydd, chwilio am minibeasts, a chael helfeydd sborion (scavenger hunts).  Byddwn hefyd yn chwilota am fwyd gwyllt wrth fwynhau‘n hunain yn yr ardal brydferth hon.

Fydd y daith ddim yn galed, ond dylech chi wisgo esgidiau addas gan na fyddwn ni bob amser ar lwybrau.

Hyd:  5 awr.     Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  km / 3 milltir

Gradd:  Hawdd

Cyfarfod:  10.00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinwyr:  Pete Kay  a  Catrina Scheltinga

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - Family Nature Walk

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded

Dysgwch Rap Chwedl!

 

Dydd Sadwrn 20fed Mai, 2017

Dysgwch rap!

SYLWER – NID TAITH GERDDED MO HWN.

2017 ydy Blwyddyn Chwedlau.  Bydd bardd/cerddwr proffesiynol Martin Daws yn troi chwedl leol yn rap!  (Martin oedd Awdur Llawryfog Pobl Ifanc Cymru 2013 – 2016.)

Cynulleidfa darged y sesiwn hon ydy teuluoedd.  (Mae ‘na sesiwn i oedolion ddydd Gwener.)

Gobeithio y perfformir y rap yn y Ffair Gacennau, dydd Sul, am 4 y.p.!

 

A dyma fo! Gwrandewch ar be’ wnaethon nhw: ‘Legend for a Day’

 

Hyd:  1.5 awr

Cyfarfod:  10:15 yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

(Lleoliad y digwyddiad hwn fydd yr ystafell ddigwyddiadau yn Nhafarn y Fairy Falls.)

 

Archebu:  I archebu lle yn y diwyddiad hwn, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - Learn a Legend Rap! (Saturday session)

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded neu weithgaredd.

Trywydd y Dywysoges i Lanrhychwyn

 

Dydd Sadwrn 20fed Mai, 2017

 Chwedlau Llywelyn Fawr

2017 ydy Blwyddyn Chwedlau yng Nghymru.

Byddwn yn cerdded i fyny’r lôn serth i Eglwys Llanrhychwyn, fel yr oedd Llywelyn a Joan, ei wraig, yn arfer gwneud cyn iddo fo gael adeiladu’r eglwys yn Nhrefriw – byddwch yn dallt pam!  Byddwn yn dychwelyd ar lwybr gwahanol trwy’r coed, i orffen efo ymweliad âg Eglwys Santes Mair (‘Eglwys Llywelyn’) yn Nhrefriw, sydd â ffenest liw yn dangos Llywelyn a Siwan.

Mae Eglwysi Trefriw a Llanrhychwyn ill dau yn rhan o’r Trywydd Drysau Cysegredig yn Sir Conwy.

Bydd chwedlwraig broffesiwnal Fiona Collins (awdur ‘Folktales of North Wales for Children’ a theitlau eraill) yn ymuno â ni ac yn adrodd chwedlau.

Ar gyfer teuluoedd fydd y digwyddiad hwn (plant 8+).

Hyd:  3 awr       Dewch â bocs bwyd.

Pellter:   5.5 km / 3.5 milltir

Gradd:  hawdd/cymedrol

Cyfarfod:  11.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:    Mike Raine, o Plas y Brenin

                                    a Pam Boyd

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - Llywelyn Legends

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Taith Gerdded Glasurol i Ddau Lyn Trefriw

 

Dydd Sadwrn 20fed Mai, 2017

Taith Gerdded Glasurol i Ddau Lyn Trefriw

Ymunwch â ni am daith sydd yn denu llawer o ymwelwyr i Drefriw – y gylchdaith glasurol o Lyn Crafnant a Llyn Geirionydd.  O Drefriw byddwn yn esgyn heibio i Raeadr y Tylwyth Teg ac ymlaen i ymylon Coedwg Gwydir.  Soniwyd am y Goedwig mewn llenyddiaeth dros 500 can mlynedd yn ôl, ac yn bendant byddwn yn gweld peth o’i hanes, gan basio hen weithfeydd a Chofeb Taliesin.

Mae’r golyfeydd o’r ddau lyn yn odidog, ac bydd ‘na ddigon o gyfle i siarad efo’ch arweinwyr am hanes a chwedlau’r ardal.  Ar ôl gorffen ein cylchdaith o’r ddau lyn, byddwn yn ddychweld i Drefriw, ac os bydd y tymor yn caniatau, byddwn yn ymweld â llechwedd llawn clychau’r gog ar ein ffordd yn ôl.

Hyd:  4 awr   

Pellter:  9.5 km / 6 miles

Gradd:  Cymedrol

Cyfarfod:  12.45 y.p. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinwyr:    Brian Watson a Liz Burnside

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - Trefriw's Two Favourite Lakes

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Y Ferch sy’n Cysgu

 

Dydd Sul 21ain Mai, 2017

Y Ferch sy’n Cysgu

Taith gerdded o Drefiw i Gaffi Siabod yng Nghapel Curig trwy gopeuon fel Creigiau Gleision, Craig Wen and Crimpiau mae eu nenlinell yn ffurfio siâp Y Ferch sy’n Cysgu.  Mae’r ardal uchel hon yn cynnig golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri.

Bydd bws mini yn dod â ni yn ôl i Drefriw mewn pryd i fwynhau’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!

Hyd:  Trwy’r dydd  –  6 awr.      Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  13 km / 8 milltir

Gradd :  Cymedrol/caled

Cyfarfod:  8.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinydd:  Roger Pierce o rbp.outdoor a Dave Prime, arweinydd efo Cerdded Conwy Walks

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - The Sleeping Lady

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Datblygu Sgiliau Mordwyo

 

Dydd Sul 21ain Mai, 2017

Datblygu Sgiliau Mordwyo

At ôl cyflwyniad byr i sgiliau cyfeirleoli, byddwn yn cerdded i Lyn Geirionydd, wedyn dros y bryn a thrwy’r goedwig i Lyn Crafnant.  Ar y ffordd bydd cyfle i ymarfer ein sgiliau mordwyo newydd!   Byddwn yn dychwelyd i Drefriw trwy hen waith Klondyke mewn pryd i ymuno â’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!

Byddwch chi angen dod â map o’r ardal hon (OS 1:25000 OL17), a chwmpawd hefyd.

Hyd:  Trwy’r dydd  –  6 awr o gerdded.    Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  13 km / 8 milltir

Gradd:  Cymedrol

Cyfarfod:  9.00 y.b. yn  Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:  Nicola Jasieniecka and Dave Evans

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - Developing Navigational Skills

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.