Dydd Gwener 19eg Mai, 2017
Trywydd y Chwedlau
Byddwch yn y grŵp cyntaf i gerdded y trywydd newydd hon, a lansir yn yr Ŵyl Gerdded fel rhan o Flwyddyn Chwedlau yng Nghymru. Mae’r daith yn mynd trwy Lanrwst, Gwydir, Llanrhychwyn, Geirionydd a Chrafnant.
Arluniwyd y Trywydd hwn i fod yn daith gerdded hunan-dywys, felly dyna fydd hi! Chi fydd yr arweinion! Cewch gopi o’r cerdyn Trywydd, sy’n cynnwys map, cyfeiriadau llawn, a phytiau o wybodaeth am y chwedlau. (Mae’r cardiau hefyd yn dangos lle mae modd cwtogi’r trywydd er mwyn dychwelyd yn gynnar.)
(d.s. Peidiwch â deud wrth neb, ond os ewch chi ar y daith hon, mi fyddwch chi mewn sefyllfa gref os penderfynwch chi roi cynnig ar ein Cwis Chwedlau, fydd yn rhedeg trwy’r Ŵyl, Ceith enillydd y cwis gopi o’r Llyfr Chwedlau newydd ddydd Sul yn ystod y Ffair Gacennau.)
Hyd: Trwy’r dydd – 5 awr. Dewch â bocs bwyd.
Pellter: 14 km / 9 milltir
Gradd : Cymedrol
Cyfarfod: 10.30 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.