2017 oedd Blwyddyn Chwedlau yng Nghymru.
Dan ni’n ddiolchgar iawn am fod wedi cael cefnogaeth ariannol LEADER ar gyfer ein gweithgareddau yn ystod Blwyddyn Chwedlau, a fu’n ein galluogi i ddatblygu’r thema hon, a hefyd i adael cymyn.
Fel rhan o hyn, creuon ni drywydd newydd – Trywydd Chwedlau Trefriw – sydd yn gylchdro o ryw 9 milltir. Mae’r trywydd ar gael fel llyfryn 8-tudalen wedi’i lamineiddio, sydd yn cynnwys map, cyfeiriadau llawn, a llawer o bytiau o wybodaeth am y chwedlau. Mae o ar gael bellach (yn Saesneg a’r Gymraeg) fel atodiad i’r pecyn Trywyddau Trefriw. (Mae’r cardiau hefyd yn dangos lle mae modd cwtogi’r trywydd er mwyn dychwelyd yn gynnar.)
Trywydd y Chwedlau
Gellir lawrlwytho Trywydd y Chwedlau fel .pdf yma, neu gellir ei brynu (ar y cyd efo pecyn Trywyddau Trefriw) ym Melin Wlân Trefriw, neu yn Swyddfa Bost Trefriw.
Dan ni hefyd wedi cynhyrchu llyfr am chwedlau yn ardal Trefriw.
292 o dudalennau, pris £7.50
Mae copiau ar gael ym Melin Wlân Trefriw ac yn Swyddfa Bost Trefriw, neu ar lein o www.lulu.com – chwiliwch am ‘Trefriw Legends’
Yn ystod yr Ŵyl Gerdded y flwyddyn honno cynhaliwyd sesiwn dan arweiniad bardd/cerddwr proffesiynol Martin Daws, ac mi droiodd y cyfranogwyr chwedl leol yn rap!
Chwaraewyd recordiad o’r rap yn y Ffair Gacennau ar ddiwedd yr ŵyl, a dyma fo! Mwynhewch ‘Legend for a Day’.