Rhedwr mynydd ydach chi? Neu efallai bod chi’n nabod rhywun sydd yn mwynhau rhedeg ar y bryniau?
Yn 2016 cynigiodd Croeso i Gerddwyr, Trefriw adfywio ras leol, sef Ras y Felin, ar ôl absenoldeb o ryw ugain mlynedd.
Mae’r ras 11 milltir hon, sydd yn cael ei threfnu gan Gymdeithas Rhedwyr Mynydd Cymru, yn dilyn llwyr o’r enw Pedol Crafnant mewn ardal heriol ac anghysbell. I gyd, mae’n rhaid i’r rhedwyr ddringo ryw 2,500 troedfedd o esgyniad, gan basio Creigiau Gleision, y copa uchaf. (Gyda llaw, rydym yn cynnwys y daith gerdded hon yn ein Gŵyl Gerdded eleni, ond byddwn yn disgwyl cymryd mwy o amser nag amser yr enillydd, sef 94 munud!)
Cliciwch ar y map i chwyddo’r llun.