Contents
Dydd Gwener 19eg Mai, 2017
Hen Dramffyrdd yng Ngodrau’r Carneddau
Byddwn ni’n mynd mewn bws mini i fyny’r allt serth o Drefriw i Gwm Cowlyd anghysbell, cyn cerdded dros y bryn am 1.5 milltir i Gwm Eigiau. Byddwn ni’n cerdded wedyn ar hyd Tramffordd Eigiau a Thramffordd Cowlyd yn ôl i’n man cychwyn. Byddwn yn dychwelyd i Drefriw ar droed.
Bydd llawer o hanes lleol am y tramffyrdd hyn a’u hargaeau.
Mae’r ardal hon yng Ngodre’r Carneddau yn anghysbell. Gwnewch yn siwr bod gynnoch chi ddillad addas, h.y. dillad gwrth-ddŵr a chynnes, ac esgidiau cerdded da.
Hyd: Trwy’r dydd – 6 awr. Dewch â bocs bwyd.
Pellter: 16 km / 10 milltir
Gradd: Cymedrol/caled
Cyfarfod: 9.30 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinyddion: Tony Ellis, awdur pedwar llyfr cerdded lleol, a Warden Gwirfoddol ar yr Wyddfa
Colin Boyd, arbenigwr mewn Addysg Awyr Agored
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.