Os ydych chi isio map AO ar gyfer Trefriw a’r ardal yn ein teithiau cerdded, Explorer (OL) 17 (graddfa 1:25,000) ydy’r un i chi.
(A bod yn onest, mae’n debyg bod gynnoch chi gopi yn barod – hwn ydy map mwya poblogaidd yr Arolwg Ordnans!)
Ar un ochr mae Dyffryn Conwy, efo Trefriw yn ei chanol; mae ein holl deithiau gerdded ar yr ochr hon. Massif yr Wyddfa sy’n domineiddio’r ochr arall.
Os mai map 1:50,000 ydy’r un i chi, ar ymyl Landranger 115 mae Trefriw.