DARLLENWCH HWN YN OFALUS, OS GWELWCH YN DDA. PAN FYDDWCH YN ARWYDDO I MEWN YN YR ŴYL GERDDED, BYDDWCH YN ARWYDDO I DDWEUD EICH BOD WEDI DARLLEN A DEALL YR AMODAU A THELERAU HYN. DIOLCH.
Archebu
Gofynnir i bob cerddwr archebu lle ar daith gerdded o flaen llaw oni nodir yn wahanol yn y rhaglen.
Mae hyn am y rhesymau canlynol:
- Er mwyn i’r cyfranogwr fwynhau’r daith gerdded.
- Iechyd a Diogelwch: er mwyn sicrhau cymhareb gywir o ran arweinwyr a cherddwyr. Gall hyn amrywio o’r naill daith i’r llall gan ddibynnu ar y dirwedd, y math o daith gerdded a’r arweinydd.
- Er mwyn i arweinwyr fod â’r manylion gofynnol am bob cerddwr.
Rydym yn defnyddio ‘Eventbrite’, y rhaglen ddigwyddiadau boblogaidd, a gysylltir o dudalennau’r teithiau cerdded. (Os hoffech chi wybod mwy am Eventbrite, dilynwch y tab ‘am Eventbrite’ ar y brif ddewislen ar dop y sgrîn, o dan ‘archebu’.)
O ran llefydd sydd ar gael, y cyntaf i’r felin geith falu! Ar deithiau cerdded lle byddwn yn defnyddio’r bws mini, bydd y nifer o lefydd ar gael yn fwy cyfyngedig.
Os bydd taith gerdded yn llawn, gellir cadw eich enw wrth gefn. Os bydd cyfranogwr yn cyrraedd ar ddechrau’r daith gerdded ond nad yw wedi archebu lle, mae hawl gan yr arweinydd i beidio â derbyn yr unigolyn ar y daith gerdded.
Nid oes rhaid archebu ar gyfer y teithiau cerdded ‘Pot Luck’.
Iechyd a Ffitrwydd
Cyfrifoldeb y cerddwyr yw gwneud yn siŵr eu bod yn ddigon corfforol heini i gymryd rhan yn y daith y maent wedi’i dewis. Dangosir gradd pob taith gerdded ar y dudalen, a gellir darllen mwy ynglŷn â’n system raddio yma.
Bydd Arweinwyr yn gofyn i gerddwyr ddatgelu unrhyw wybodaeth feddygol a allai effeithio arnynt ar unrhyw adeg yn ystod y daith. Mae’r wybodaeth yma er mwyn diogelwch a lles y cerddwr, a fe’i cedwir yn gyfrinachol.
Bydd rhywun â chymhwyster cymorth cyntaf ar bob taith.
Dillad, Esgidiau, Bwyd a Diod
Cyfrifoldeb y cerddwyr yw gwneud yn siŵr eu bod yn gwisgo dillad ac esgidiau addas ar gyfer yr amodau, h.y. esgidiau cadarn a dillad gwrth ddŵr. Argymhellir y dylai cerddwyr ddod â bwyd a diod sy’n addas ar gyfer eu hanghenion a hyd y daith. Dewch ag eli haul efo chi os oes angen. Mae gan yr arweinydd hawl i wrthod cerddwr sydd heb yr offer priodol.
Oedran
Mae croeso i blant dan 18 ond mae’n rhaid i riant neu oedolyn dros 18 ddod gyda nhw.
Efallai y bydd rhai o’r teithiau cerdded yn anaddas i blant; os hoffech ddod â phlant ar daith gerdded a wnewch chi ddarllen y manylion yn fanwl, ond mae croeso i chi ein hebostio ni.
Amser Ymadael
Mae’r amser a nodwyd yn y rhaglen ac ar y tocynnau Eventbrite yw’r amser ymadael. Cyrhaeddwch o.g.y.dd. mewn da bryd i gofrestru, gwneud rhodd, mynd i’r tŷ bach, ac ati. Yn ystod yr Ŵyl Gerdded cewch ein cysylltu funud ola os bydd raid (manylion ar y dudalen ‘Cysylltwch â ni’). Byddwch yn deall y bydd y teithiau yn dechrau ar yr amser dechrau, waeth a yw pawb wedi cyrraedd neu beidio (oni bai ein bod ni wedi glywed gynnych).
Tywydd
Bydd arweinwyr y teithiau yn y man cychwyn waeth beth yw’r tywydd. Ond, mewn amodau tywydd eithriadol, efallai y bydd y daith yn cael ei haddasu neu’n cael ei chanslo i sicrhau diogelwch.
Newidiadau
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i addasu’r rhaglen heb rybudd. Credir bod y manylion yn y rhaglen yn gywir ar adeg argraffu. Mae arweinydd y daith yn cadw’r hawl i addasu’r daith yn ystod y daith os oes angen oherwydd rhesymau diogelwch.
Lluniau
Yn ystod y teithiau cerdded, efallai bydd arweinwyr yn tynnu lluniau o gerddwyr y gellir eu defnyddio ar gyfer deunydd hyrwyddo yn y dyfodol, ac ar y wefan. Dylai unrhyw un sy’n dymuno i ni beidio eu cynnwys nhw neu eu plentyn mewn lluniau ar gyfer deunyddiau hyrwyddo (gan gynnwys yn Neuadd y Pentref) roi gwybod i’r arweinwyr a’r staff ar ddechrau’r daith.
Cŵn
Mae’n ddrwg gennym ond ni chewch ddod â chŵn ac eithrio cŵn tywys, ar y teithiau hyn. Mae hyn oherwydd yr adeg o’r flwyddyn, pan fydd llawer o ŵyn o gwmpas, a bydd rhai adar yn nythu ar y ddaear.
Y gost
Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am roddion gwirfoddol. Os hoffech chi ddarllen mwy am sut yr ariennir yr Ŵyl Gerdded, ewch i’n tudalen ariannu.
Atebolrwydd
Sylwer – Cyfrifoldeb yr unigolion sy’n cymryd rhan yn y teithiau yw sicrhau eu bod yn ddigon heini ar gyfer y daith, a bod ganddynt y cyfarpar addas.
Mae’r trefnwyr wedi gwneud pob ymdrech ymarferol i sicrhau diogelwch yr holl unigolion sy’n cymryd rhan yn yr Ŵyl Gerdded, ac y gwneir asesiad o’r risgiau ar bob un daith o flaen llaw. Ond, ni fydd y trefnwyr yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw anaf, golled neu ddifrod i unigolion nac eiddo, sut bynnag y bydd yn cael ei achosi, os nad yw’n deillio o esgeulustod uniongyrchol gan y trefnwyr, ac os oes gan y trefnwyr ddyletswydd gofal. Er yr yswirir y trefnwyr, rydym yn eich cynghori i drefnu yswiriant ar gyfer damweiniau ac anaf personol.
Gwarchod data
Gellir darllen ein Polisi Diogelu Data yma.
Dyna’r cyfan! Diolch am gyrraedd y diwedd!
Os ydach chi isio mwy o wybodaeth, mae croeso i chi ein hebostio ni.