Y Ffair Gacennau – sydd am 4 y.p. ar ddydd Sul 17eg Mai – ydy uchafbwynt yr Ŵyl Gerdded.
Ac ar ôl saith mlynedd mae’n chwedlonol yn ei braint ei hun!
Meddyliwch am wledd o gacennau!
Wel, fel ‘na mae hi!
(Byddwn yn gofyn am rhoddion bach.)
Ar y dydd Sul bydd yr holl deithiau cerdded yn dychwelyd i Drefriw mewn pryd i ymuno yn y Ffair Gacennau, ac mae’n wych bob tro gweld cymaint o bobl yn mwynhau’r cyfle i ymlacio, sgwrsio a … wel … bwyta cacen!
Hefyd byddwn yn tynnu’r raffl! Bydd llawer o wobrau bendigedig!