Dydd Gwener 19eg Mai, 2017
O Fetws-y-coed i Drefriw
Byddwn yn teithio i fyny Dyffryn Conwy o Drefriw i Fetws-y-coed ar gludiant cyhoeddus, i gychwyn y daith gerdded yn ôl i Drefriw ar y bryniau uwchben Dyffryn Conwy. Mae hon yn daith odidog, a cheir golygfeydd ardderchog o’r bryniau o gwmpas, gan gynnwys mynyddoedd Eryri. Hefyd byddwn yn ymweld â nifer o lynnoedd a safleoedd hanesyddol ar y llwybr yn ôl i Drefriw.
Hyd: 6 awr. Dewch â bocs bwyd.
Pellter: 11 km / 7 milltir
Gradd: Cymedrol
Cyfaddasrwydd: Pawb sydd yn weddol heini
Cyfarfod : 10.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i ddal cludiant cyhoeddus i Fetws-y-coed
(Bydd rhaid i chi brynu tocyn bws, oni bai bod gynnoch chi bas)
Arweinwyr : John Barber a Dave Prime, arweinydd efo Cerdded Conwy Walks
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.