Dydd Sadwrn 20fed Mai, 2017
Chwedlau Llywelyn Fawr
2017 ydy Blwyddyn Chwedlau yng Nghymru.
Byddwn yn cerdded i fyny’r lôn serth i Eglwys Llanrhychwyn, fel yr oedd Llywelyn a Joan, ei wraig, yn arfer gwneud cyn iddo fo gael adeiladu’r eglwys yn Nhrefriw – byddwch yn dallt pam! Byddwn yn dychwelyd ar lwybr gwahanol trwy’r coed, i orffen efo ymweliad âg Eglwys Santes Mair (‘Eglwys Llywelyn’) yn Nhrefriw, sydd â ffenest liw yn dangos Llywelyn a Siwan.
Mae Eglwysi Trefriw a Llanrhychwyn ill dau yn rhan o’r Trywydd Drysau Cysegredig yn Sir Conwy.
Bydd chwedlwraig broffesiwnal Fiona Collins (awdur ‘Folktales of North Wales for Children’ a theitlau eraill) yn ymuno â ni ac yn adrodd chwedlau.
Ar gyfer teuluoedd fydd y digwyddiad hwn (plant 8+).
Hyd: 3 awr Dewch â bocs bwyd.
Pellter: 5.5 km / 3.5 milltir
Gradd: hawdd/cymedrol
Cyfarfod: 11.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinyddion: Mike Raine, o Plas y Brenin
a Pam Boyd
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.