Deg Llyn

 

Dydd Sadwrn 20fed Mai, 2017

Deg Llyn

Diwrnod llawn fydd yn mynd â ni i Goedwig Gwydir er mwyn ymweld â 10 llyn sydd yn yr ardal.

Y daith gerdded hon ydy’r un hiraf yn yr Ŵyl Gerdded eleni.

Gan gychwyn a gorffen efo Llynnoedd Geirionydd a Chrafnant, y llynnoedd mwyaf adnabyddus yn yr ardal, bydd y daith hir hon yn ymweld â 10 llyn yng Nghoedwig Gwydir.  Mae gan lawer ohonynt gysylltiad efo mwyngloddiau metel yr ardal.  Mae’r llwybrau hefyd yn pasio trwy rannau uchel o’r goedwig sydd â golygfeydd gwych o’r mynyddoedd.  Byddwn yn cerdded ar gyflymdra hamddenol, ac yn defnyddio llawer o lwybrau da yn y goedwig.  Gradd y daith ydy “Cymedrol / Caled” dim ond oherwydd ei hyd. Byddwn ni’n pasio toiledau ar ôl 2½ milltir, 10½ milltir a 12½ milltir.

Hyd:  Trwy’r dydd 7 – 8 awr o gerdded.    Dewch â bocs bwyd.

Pellter:  24 km / 15 milltir

Gradd:  Cymedrol/caled

Cyfarfod:  9.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion:  Tony Ellis, awdur pedwar llyfr cerdded lleol, a Warden Gwirfoddol ar yr Wyddfa

                                  Colin Boyd, arbenigwr mewn Addysg Awyr Agored

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

 

Archebu:  I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.

Eventbrite - Trefriw Walking Festival 2017 - Ten Lakes

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.