Contents
Dydd Sadwrn 20fed Mai, 2017
Pedol Eigiau – Taith Gerdded uchel yn y Carneddau
Fel rhan o ddathliadau 50 mlynedd Cymdeithas Eryri, rydym wedi ymuno â nhw i gyflwyno’r daith gerdded hon:
Bydd y daith gerdded mynydd heriol hon – o’r enw Pedol Eigiau – yn cychwyn a gorffen yn y maes parcio yng Nghwm Eigiau (bydd bws mini yn mynd â chi yno). Byddwch yn cerdded i gopâu Foel Grach a Charnedd Llewelyn (dros 3000′), a hefyd i gopaon Pen Yr Helgi Du a Pen Llithrig y Wrach.
Dydy’r llwybr hwn ddim yn dilyn llwybrau amlwg bob tro. Sylwer hefyd bod ‘na rannau sydd yn agored, ac mewn cwpl o fannau bydd rhaid defnyddio dwylo.
I gyd bydd ‘na ryw 3500’ (1100m) of esgyniad, felly dylai fod ‘na olygfeydd gwych – os bydd y cymylau yn uchel; ond sylwer bod hi’n debyg ceith y llwybr ei newid/fyrhau os na fydd y tywydd yn ffafriol.
Gwnewch yn siwr bod gynnoch chi ddillad addas, h.y. dillad gwrth-ddŵr / gwrth-wynt, dillad cynnes, ac esgidiau cerdded da.
Hyd: Trwy’r dydd – 8 awr. Dewch â bocs bwyd.
Pellter: 15 km / 10 milltir
Gradd: Taith Fynydd Galed
Cyfaddasrwydd: Cerddwyr profiadol a heini
Cyfarfod: 8.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i gael cludiant i fan cychwyn y daith
Leader: Keith Hulse, o Snowdonia Walker, ac Arweinydd Teithiau Cerdded efo Cymdeithas Eryri
Colin Devine, Arweinydd Teithiau Cerdded efo Cerdedd Conwy Walks
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.