Contents
Dydd Sadwrn 20fed Mai, 2017
Chwilota mewn Nature i Deuluoedd
Mae hon yn daith gerdded efo gweithgareddau i’r teulu, a fydd yn cyfuno gemau amgylcheddol a gweithgareddau efo dysgu mwy am chwedlau’r ardal a’i hanes dynol a naturiol.
Byddwn yn cerdded o Drefriw i Ddyffryn Crafnant trwy gaeau a choedydd llawn clychau’r gog, lle byddwn yn chwilio am fywyd yn y nentydd, chwilio am minibeasts, a chael helfeydd sborion (scavenger hunts). Byddwn hefyd yn chwilota am fwyd gwyllt wrth fwynhau‘n hunain yn yr ardal brydferth hon.
Fydd y daith ddim yn galed, ond dylech chi wisgo esgidiau addas gan na fyddwn ni bob amser ar lwybrau.
Hyd: 5 awr. Dewch â bocs bwyd.
Pellter: 5 km / 3 milltir
Gradd: Hawdd
Cyfarfod: 10.00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinwyr: Pete Kay a Catrina Scheltinga
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle ar y daith gerdded hon, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded