Dydd Gwener, 17eg Mai, 2019
Yr Wyddfa
Dros y blynyddoedd dan ni wedi cyfarfod llawer o bobl sy’n cyfaddef bod nhw erioed wedi cerdded i fyny’r Wyddfa – ond maen nhw isio ei wneud o! Wel, dyma eich cyfle, efo dau Warden Gwirfoddol yr Wyddfa sydd yn gwybod bron pob dim am y mynydd a’i lwybrau. Byddwn yn cychwyn yn gynnar, gan esgyn ar y Llwybr Pyg er mwyn cyrraedd y copa cyn iddi hi fynd yn rhy brysur. Byddwn yn disgyn ar Lwybr y Mwynwyr.
Byddwn yn teithio i Ben y Pass ac yn ôl ar ein bws mini.
(Sylwer – Er ein bod ni’n disgwyl y bydd y caffi a thoiledau ar y copa ar agor, os bydd y gwynt yn gryf iawn fydd y trenau ddim yn rhedeg i’r copa, felly fydd yr adeilad ddim ar agor.)
Cofiwch y medrith hi fod yn oer ar yr Wyddfa, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod gynnoch chi ddillad addas, h.y. dillad gwrth-ddŵr / gwrth-wynt, dillad cynnes, ac esgidiau cerdded da.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd a digon i’w yfed.
Pellter: 8 miles / 13 km
Gradd: Mynydd caled
Addadrwydd: Rhaid i chi fod yn heini ac yn gerddwr profiadol. Byddwn yn esgyn am dros 2 awr.
Cyfarfod: 8.00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.
Arweinyddion: Linda Roberts (Warden Gwirfoddol yr Wyddfa) a Tony Ellis (Warden Gwirfoddol ac awdur)
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.