Dydd Gwener 17eg Mai, 2019
Taith Gerdded ymwybyddiaeth ofalgar (prynhawn)
Ymunwch â ni ar gyfer taith gerdded iogig a myfyriol i gysylltu â’r hunan a byd natur. Byddwn yn cyfarfod yn Neuadd Bentref Trefriw cyn rhannu ceir i Fetws-y-coed (4.5 milltir i ffwrdd).
Bydd y daith ei hun yn para am ryw 2 awr, gan gychwyn ger Pont y Mwynwyr, wedyn awn ni i mewn i’r goedwig ac ymlaen i ymweld â yurt, cyn dychwelyd i’n man cychwyn a’r ceir yn ôl i Drefriw.
Er mai’r daith gerdded hon yw’r fyrra yn yr Ŵyl, medrai ei heffaith fod yn bwerus.
Hyd: tua 2 awr
Pellter: tua 2 filltir / 3 km
Gradd: hawdd, hamddenol
Cyfarfod: 1.15 y.p. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i rannu ceir i Fetws-y-coed (4.5 milltir o Drefriw)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, cyfarfod yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.
Arweinyddion: Gwen Parri a Pam Boyd
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.