Dydd Gwener, 17eg Mai, 2019
Gwreiddiau, Blagur a Dail
Cyfle i ddarganfod y gwanwyn yn Nyffryn Crafnant ar y daith gerdded hamddenol hon trwy glychau’r gog a blodau gwanwynol eraill. Cewch wybod hefyd am y coed lleol a phlanhigion eraill, a sut roedden nhw mor hanfodol i bobl yn y gorffennol yn eu bywydau pob dydd.
Hyd: Hanner diwrnod, gan gychwyn yn hwyr. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: tua 4 milltir / 6.5 km
Gradd: Cymhedrol, ond hamddenol
Cyfarfod: 10.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.
Arweinyddion: Joan Prime a Karen Black
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.