Bacpacio a Phadlo

Dydd Gwener 17eg Mai, 2019

Bacpacio a Phadlo

Mae hon yn daith gerdded efo gwahaniaeth! Byddwn yn cerdded rhwng Trefriw a Llyn Parc (yng Nghoedwig Gwydir), a hefyd yn cael sesiwn o ‘pac-rafftio’ ar y llyn. Pac-rafftio ydy cario rafft ysgafn cyn ei chwythu wrth gyrraedd y dŵr. Bydd y ddwy awr yn cynnwys y daith gerdded i’r llyn o Fwynglawdd Hafna, felly bydd ‘na ryw awr ar y dŵr. Darperir siacedi achub.

  (lluniau gan ‘Tirio’)

Bydd 2 grŵp o 8 o bobl:

  •  Bydd y grŵp cyntaf yn teithio ar ein bws mini i Fwynglawdd Hafna, lle byddan nhw’n cyfarfod staff Tirio. Byddwn wedyn yn cerdded i fyny i Lyn Parc (rhyw filltir) ar gyfer y sesiwn pac-rafftio. Wedi’r sesiwn byddwn yn cerdded yn ôl i Fwynglawdd Hafna am ginio (efo’r grŵp arall) cyn cerdded yn ôl i Drefriw (5 milltir).
  • Bydd yr ail grŵp yn cerdded o Drefriw i Fwynglawdd Hafna (5 milltir), wedyn ar ôl cinio (efo’r grŵp arall) cerdded i Lyn Parc (rhyw filltir) efo staff Tirio ar gyfer y sesiwn rafftio. Wedyn byddwn yn dychwelyd i Fwynglawdd Hafna er mwyn dal ein bws mini yn ôl i Drefriw.

Sylwer – Bydd rhaid i ni ofyn am dâl lleiafswm o £10 oddi wrth gyfranogwyr ar y daith gerdded hon, gan ein bod ni wedi hurio’r gweithgaredd hwn (efo disgownt mawr – diolch Tirio).

Os byddwch am archebu lle ar y gwethgaredd hwn (gan ddefnyddio’r botwm arferol isod), mae’n bwysig hefyd eich bod yn darllen y darnau perthnasol o Amodau a Thelerau Tirio (yn Saesneg) a Gwybodaeth Bwcio Tirio (yn Saesneg). Bydd staff Tirio yn gofyn i chi arwyddo copi o’r rhein cyn i chi gymryd rhan yn y sesiwn pac-rafftio.

Yn ogystal â’ch dillad cerdded arferol, mae Tirio yn awgrymu bod chi’n dod â dillad gwrth-ddŵr (siaced a legins), esgidiau ysgafn i wisgo yn y dŵr (e.e. esgidiau neopren neu rhywbeth fydd yn iawn os byddan nhw’n gwlychu, fel hen drênars), haen gynnes ychwanegol a dillad spâr.

(Dan ni’n awgrymu rycsac o ryw 40 litr fel y byddwch chi’n medru ffitio eich dingi pwmpiadwy i mewn. Byddwch yn medru gadael cyfarpar yng ngheir Tirio yn Hafna, os hoffech chi.)

Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter: tua 7 milltir / 11 km

Gradd: Cymhedrol, ond hamddenol

Cyfarfod: 10.00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.

Arweinyddion:  Roger Pierce a Mat Hancox
Pac-rafftio:  gan ‘Tirio’  (gweler eu gwefan yma).

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle:  I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig