Dydd Gwener 17eg Mai, 2019
Uchel ac Isel
Ar y daith hon byddwn yn archwilio llefydd uchel ac isel. I gychwyn byddwn yn esgyn Grinllwm, yr allt sydd yn edrych dros y pentref ac i lawr y dyffryn hyd at y môr. Byddwn wedyn yn anelu am y bryniau uwchben Llanrhychwyn, sydd â golygfeydd gwych tuag at y mynyddoedd. Wedyn bydd llwybrau’r goedwig yn mynd â ni i’r pilar trig yn un o’r llefydd ucha yng Nghoedwig Gwydir, cyn disgyn i Wydir. Y darn olaf ydy’r daith hamddenol ar lan Afon Conwy yn ôl i Drefriw. (Mae’r afon yn llanwol hyd at Tan Lan, rhwng Trefriw a Llanrwst.)
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: tua 9.5 milltir / 15 km
Gradd: Cymhedrol (er yn serth i gychwyn) ond hamddenol
Cyfarfod: 9.30 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.
Arweinyddion: Karen Martindale a Graham Martindale
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.