Cerrig a Defodau

Dydd Gwener 17fed Mai, 2019

Cerrig a Defodau

Yn yr ucheldir uwchben Rowen mae casgliad rhyfeddol o gofadeiliau hynafol.  Meini hir a chylchoedd, cromlechi a bryngaerau, olion systemau caeau a ffermydd, sarnau a llwybr Rhufeiniaid – maen nhw i gyd yn ein disgwyl ar y daith gerdded hon.

Bydd ‘na rai esgyniadau a disgyniadau gweddol serth.

Byddwn yn teithio i Rowen ac yn ôl yn ein bws mini.

Arweinir y daith hon gan y dyn “carismatig a dawnus” Ken Brassil.

Hyd:  Trwy’r dydd.   Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  tua 5 milltir / 8 km

Gradd:  Cymedrol

Cyafarfod:  9.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.

Arweinyddion:   Ken Brassil and Bernard Owen

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle:  I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig