Pedol Eigiau

Dydd Sadwrn 18fed Mai, 2019

Pedol Eigiau – Taith Gerdded uchel yn y Carneddau

Bydd y daith gerdded mynydd heriol hon – o’r enw Pedol Eigiau – yn cychwyn a gorffen yn y maes parcio yng Nghwm Eigiau (bydd ein bws mini yn mynd â ni yno).  Byddwn yn cerdded i gopâu Foel Grach a Charnedd Llewelyn (dros 3000′), a hefyd i gopaon Pen Yr Helgi Du a Pen Llithrig y Wrach.

Dydy’r llwybr hwn ddim yn dilyn llwybrau amlwg bob tro.  Sylwer hefyd bod ‘na rannau sydd yn agored, ac mewn cwpl o fannau bydd rhaid defnyddio dwylo.

I gyd bydd ‘na ryw 3500’ (1100m) of esgyniad, felly dylai fod ‘na olygfeydd gwych – os bydd y cymylau yn uchel; ond sylwer bod hi’n debyg ceith y llwybr ei newid/fyrhau os na fydd y tywydd yn ffafriol.

Gwnewch yn siwr bod gynnoch chi ddillad addas, h.y. dillad gwrth-ddŵr / gwrth-wynt, dillad cynnes, ac esgidiau cerdded da.

Hyd:   Trwy’r dydd –  8 awr.    Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  10 milltir / 15 km

Gradd:  Taith Fynydd Galed

Cyfaddasrwydd:   Cerddwyr profiadol a heini

Cyfarfod:  8.15 y.b. yn  Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i gael cludiant i fan cychwyn y daith
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, cyfarfod yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.

Leader:    Keith Hulse (o Snowdonia Walker) and Colin Boyd

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle:   I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig