Contents
Dydd Sadwrn 18fed Mai, 2019
Cwm Idwal – lle arbennig iawn
Ymunwch â ni ar daith yng Ngwarchodfa Natur Cwm Idwal, ac mi welwch chi pam mae’r lle hwn mor unigryw.
Byddwn yn ymweld â rhai o’r cymunedau Arctig-Alpaidd sydd yn gwneud y safle hwn mor enwog, yn ogystal ag agweddau eraill o’r ardal, e.e. ei daeareg, ei rheolaeth, a’i hanes dynol a naturiol. Trafodir bygythiadau a phosibiliadau, ac bydd ‘na ddigon o amser i fwynhau’r golygfeydd a’r awyrgylch.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd, llawer i’w yfed, a dillad ac esgidiau addas ar gyfer yr ucheldiroedd. Efallai bydd binocwlars a lensys llaw o ddefnydd hefyd.
Pellter: Dim mwy na 5 milltir / 8 km
Gradd ac addasrwydd: Cymhedrol, ond mae’n rhaid i chi fod yn gyfforddus yn cerdded dros dir a fydd, ar adegau, yn serth ac anwastad oddi ar y llwybrau.
Cyfarfod: 8.30 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) ac mi fyddwn yn rhannu ceir i Gwm Idwal ac yn ôl.
Neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, cyfarfod yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.
Sylwer – os bydd rhai ohonoch chi yn dod o’r cyfeiriad arall, mae’n debyg byddwn yn eich cysylltu i awgrymu cyfarfod yn Ogwen am 9.15, os bydd hynny yn well gynnoch chi.)
Arweinyddion: Pete Kay (arweinydd mynydd ac arbenigwr ar y safle) a Linda Roberts (warden gwirfoddol yr Wyddfa)
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.