Pedol Crafnant

Dydd Sadwrn, 18fed Mai, 2019

Pedol Crafnant

Dydy hon ddim yn daith i’r rhai gwangalon! Byddwyn yn dilyn llwybr Ras Flynyddol Melin Trefriw, sydd âg esgyniad o ryw 4000′ (h.y. yn uwch na’r Wyddfa!).

I gychwyn byddwn yn esgyn Cefn Cyfarwydd – y grib y tu ôl i Drefriw – cyn anelu ar hyd ei thop llydan i copaon Creigiau Gleision. O fa’ma mae ‘na olygfeydd gwych o’r Glyderau, yr Wyddfa, a hyd yn oed o’r arfordir. Ar ôl ymweld â thopiau is Craiglwyn, Craig Wen a’r Crimpiau, byddwn yn disgyn i Lyn Crafnant, wedyn cerdded dros Fynydd Deulyn i Lyn Geirionydd ar ein ffordd yn ôl i Drefriw.

Mae’r ardal hon yn anghysbell, mae un rhan yn wlyb dan draed, ac mae’n medru bod yn oer ar y topiau, hyd yn oed ym mis Mai. Gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr. (Efallai y basai gaiters yn syniad da mewn mannau.)

Hyd:  Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd a digon i’w yfed.

Pellter:  Tua 11 milltir / 17.5 km

Gradd:  Caled, mynydd (gweler y proffil isod)

Cyfarfod:  8.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.

Arweinyddion:  Mike Bolsover a Nick Livesey

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle:  I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig