Contents
Dydd Sadwrn a Dydd Sul 18-19 Mai, 2019
I Ddyfryn Ogwen a Chapel Curig ac yn ôl
Mae hon yn daith ddau ddiwrnod.
Ar y diwrnod cyntaf byddwn yn cerdded o Drefriw dros Gefn Cyfarwydd, y cefn tu ôl i’r pentref, i lawr i Gwm Cowlyd, sydd yn ardal anghysbell. Wedyn byddwn yn cerdded ar lan Llyn Cowlyd i Ddyffryn Ogwen, gan groesi’r ffordd a’r afon wrth Helyg (y cwt dringwyr o fri) cyn anelu am Gapel Curig ar hyd hen ffordd y goets fawr. Bydd hyn yn gyfle i fwynhau’r mynyddoedd heb orfod eu dringo nhw! Bydd ein diwrnod cyntaf yn gorffen ym Mhlas y Brenin, lle bydd cyfle am ddiod yn y caffi/bar cyn dychwelyd yn ein bws mini.
Ar yr ail ddiwrnod byddwn ni’n dychwelyd ar y bws mini i Blas y Brenin, wedyn cerdded yn ôl i Drefriw ar lwybrau gwahanol, haws (trwy Gapel Curig a Llyn Crafnant), mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!
Ddylai bod ‘na olygfeydd da ar y ddau ddiwrnod os bydd y cymylau’n uchel.
Sylwer – Trwy archebu lle rydach chi’n ymrwymo i fynychu ar y ddau ddiwrnod.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd bob dydd.
Pellter: tua 11 milltir (17 km) + 9 milltir (14 km)
Gradd: Cymhedrol/Caled. Bydd peth o’r daith ar lwybrau dros weundir a’r ucheldiroedd. Y diwrnod cyntaf fydd y mwya heriol gan fydd ‘na ryw 2,000’ o esgyniad, y rhan fwyaf yn yr awr a hanner gyntaf! Cofiwch mai weithiau mae’n oer yn y mynyddoedd, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr. Awgrymir esgidiau cerdded lledr.
Cyfarfod: Dydd Sadwrn am 9.00 y.b. a Dydd Sul am 8.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.
Arweinyddion: Tony Ellis a Nigel Thomas
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.