Gwlad y Gog

Dydd Sadwrn 18fed Mai, 2019

Gwlad y Gog

Clywir y gog trwy gyfan mis Mai yn ardal hardd y daith gerdded hon. Bydd y bws mini yn ein cludo i Lyn Crafnant, o le byddwn yn cerdded ar lan y llyn, wedyn dros y bwlch tuag at Gapel Curig (lle mae golygfeydd gwych tuag at Siabod a’r Wyddfa). Wedyn byddwn yn cerdded mewn cylch yn ôl, ar lwybrau llydan, gan basio Llyn Bychan cyn cyrraedd Llyn Geirionydd (lle mae ‘na doiledau), a dychwelyd i Drefriw trwy’r dolydd ar lan Afon Crafnant.

Dan ni ddim yn medru gwarantu clywed y gog, wrth reswm (er y clywyd llawer y llynedd), ond mae hon yn daith gerdded wych beth bynnag.

Hyd:  Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter:  tua 10 milltir / 16 km

Gradd:  Cymhedrol, bron yn galed oherwydd ei hyd, ond hamddenol

Cyfarfod:  9.15 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.

Arweinyddion:  Gill Scheltinga ac Idris Bowen

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle:   I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig