Ar Drywydd y Rhufeiniaid

Dydd Sadwrn 18fed Mai, 2019

Ar Drywydd y Rhufeiniaid (Sarn Helen)

Mae hon yn daith gerdded olygfaol sydd yn cychwyn ym Mhont-y-pant yn Nyffryn Lledr, i’r de-orllewin o Fetws y coed. Byddwyn yn teithio yno trwy gerdded o Drefriw i Lanrwst (un filltir), wedyn dal y trên i Bont-y-pant. (Bydd y tocyn yn costio £3.90, ond am ddim i ddeiliaid pas bws)

Byddwn yn dilyn Sarn Helen, yr hen lwybr Rhufeiniaid dros y topiau i Fetws y coed, gan pasio’r pentref gwag o Rhiwddolion a chroesi Afon Llugwy wrth Bont y Mwynwyr.  Dydy hi ddim mor amlwg lle’r oedd y llwybr yn mynd rhwng Betws a Threfriw (ar ei ffordd i’r caer yng Nghaerhun), ond mi basiodd o drwy Nant BH a Llyn Geirionydd, y llwybr byddwn ni’n ei gymryd.

Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter: tua 11 milltir / 18 km

Gradd: Cymhedrol, ond hamddenol

Cyfarfod: 9.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.

Arweinyddion: Dave Prime a Mat Hancox

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle:  I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig