Contents
Dydd Sul 19eg Mai, 2019
Pen-y-gaer i’r Môr
Byddwn yn mynd ar ein bws mini i Ben y Gaer, sydd yn hen gaer o Oes yr Haearn, wedyn cerdded i’r môr yng Nghonwy, yn rhannol ar hyd Llwybr Arfordir Gogledd Cymru, gan basio Bwlch Sychnant cyn dilyn y llwybr ar hyd Mynydd y Dref a disgyn i lawr i Gonwy. Ac yno gobeithio bydd ‘na amser am banad a hufen iâ ar y cei, os hoffech chi!
Byddwn yn ôl mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau am 4 y.p.!
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: tua 8 milltir / 13 km
Gradd: Cymhedrol. Bydd llawer o’r daith ar lwybrau dros weundir a’r ucheldiroedd. Cofiwch y medrith hi fod yn oer, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr.
Cyfarfod: 9.35 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.
Arweinyddion: Colin Devine a Clive Noble
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.