Dydd Sul 19eg Mai, 2019
Datganiadau mewn Cerrig
Mwynhewch dirwedd godidog Dyffryn Conwy a Choedwig Gwydir, a dewch o hyd i rai o’n gemau cudd – y llefydd arbennig hynny, a’u hanes, nad oes neb ond y bobl leol yn gwybod amdanynt.
Yng nghwmni Ken Brassil, yr archeolegydd a hanesydd diwylliannol adnabyddus, byddwch yn dysgu sut mae’r hen lefydd hyn yn datgelu’r dolenni hanesyddol rhwng y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Byddwn yn ôl mewn pryd i fynychu’r Ffair Gacennau.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: tua 5 milltir / 8 km
Gradd: Hawdd, hamddenol
Cyfarfod: 9.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.
Arweinyddion: Ken Brassil a Bernard Owen
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm isod.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.