Contents
Dydd Sul 19eg Mai, 2019
Mwyngloddiau a Mwynau
Bu Coedwig Gwydir yn gartref i lawer o fwyngloddiau llechi a metel ar un adeg. Byddwn yn pasio rhyw ddeg o weithfeydd, rhai mawr a rhai bach, wrth i ni archwilio’r ardal hyfryd hon ar stepan drws Trefriw .
Byddwn yn cerdded gyntaf i fyny’r lôn serth i Lanrhychwyn, wedyn heibio i’r hen geudyllau llechi ar ymyl Coedwig Gwydir. Byddwn wedyn yn disgyn i Waith Hafna cyn mynd ymlaen i Waith Parc a Gwaith Vale of Conwy, wedyn i Waith Llanrwst sydd yn Nant Bwlch-yr-haearn. Ar ein ffordd yn ôl byddwn yn pasio llynnoedd hyfryd cyn mwynhau’r golygfeydd o’r mynyddoedd ger Gwaith Pandora. Bu’r gwaith hwn yn anfon ei fwyn ar hyd yr hen dramffordd i Klondyke, a fydd ar ein ffordd yn ôl i Drefriw uwchben Dyffryn Crafnant.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: 9.5 milltir / 15 km
Gradd: Cymedrol
Cyfarfod: 9.05 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.
Arweinyddion: Karen Martindale a Jan Blaszkiewicz
Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu lle: I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.