Lonydd a Llynnoedd yn Nyffryn Conwy (cerdded a beicio)

Dydd Sadwrn 18fed Mai, 2019

Lonydd a llynnoedd yn Nyffryn Conwy (Cerdded a Beicio)

Mae hon yn daith sydd yn cynnwys elfen o feicio – byddwn yn eich cyflenwi ag e-beics (h.y. beics sydd â batris). Yn y bôn bydd ‘na ryw 3 -4 milltir o gerdded, wedyn tua 6 milltir o feicio.

Bydd hyn yn gyflwyniad i e-beics – ar lonydd a ffyrdd distaw, efo golygfeydd hyfryd o Ddyfryn Conwy, ei lynnoedd, y bryniau a’r mynyddoedd.

(Sylwer – fydd ‘na ddim tir technegol, ond bydd ‘na fryniau serth – i fyny ac i lawr – felly bydd rhaid i bawb fod yn feiciwr gweddol hyderus a galluog.)

Bydd arweinwyr yn cerdded efo’r cerddwyr, a hefyd bydd arwieinwyr profiadol yn beicio efo’r beicwyr.

Bydd ‘na ddau grŵp o hyd at 10 o bobl –

    •  Bydd y grŵp cyntaf yn e-beicio o Drefriw i Lyn Geirionydd. Ar ôl cinio (efo’r ail grŵp) byddwn yn cyfnewid llefydd a cherdded yn ôl i Drefriw ar lwybrau.
    • Bydd yr ail grŵp yn gwneud hyn y ffordd arall, h.y. cerdded i’n lle cinio wrth Lyn Geirionydd, wedyn e-beicio yn ôl i Drefriw.

Sylwer – Os nad ydach chi isio beicio a cherdded yn yr un esgidiau, bydd rhaid i chi ddod ag ail bâr. Byddwch yn reidio efo’ch rycsac beth bynnag.

Byddwn yn darparu helmedau ar eich cyfer.

Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.

Pellter: tua 3 – 4 milltir / 5 -6 km o gerdded, a 6 milltir o feicio

Gradd: Cymhedrol, ond hamddenol

Cyfarfod: 10.00 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
neu, os na fydd y gwaith trwsio yn y neuadd wedi’i gwblhau mewn pryd, yng Nghapel Peniel, LL27 0JL, dim ond munud o waith cerdded i fyny’r lôn gyferbyn â’r neuadd.

Arweinyddion:  Colin Devine a Cate Bolsover (cerdded)
Roger Pierce, Tomos Jones a Tim Ballam (beics)

Cliciwch yma i weld bras leoliad y daith gerdded hon.

Archebu lle:  I archebu lle ar y daith hon, cliciwch ar y botwm ‘register’ isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Yn ôl i’r brig