All posts by Mike TWF

Taith Gerdded Dau Lyn Trefriw

 

Dydd Gwener 15fed Mai 2015

Taith Gerdded Dau Lyn Trefriw

Taith gerdded benigamp o’r pentref, sydd yn ffefryn i bobl leol. Mae’n ymweld â Llyn Geirionydd a Llyn Crafnant, gan basio trwy goedydd brodorol, a heibio i hen fwyngloddiau a llefydd sydd â hanes barddol. Mae’r daith yn gwneud defnydd da o hen lwybrau’r mwyngloddwyr. Mae opsiwn hir ac un byr – gwneir dewis ar y diwrnod.Arweinir gan Mike Raine, awdur ‘Nature of Snowdonia’.

Hyd: Bore, hyd at 3 awr

Pellter: Hyd at 10km / 6.6 milltir

Cymedrol

Dwy Eglwys a Chapel

Dwy Eglwys a Chapel

TDwy Eglwys a Chapel

Full – No More Bookings Please

Taith gerdded unffordd o Gastell Gwydir i Drefriw ar ochr y bryn uwchben Dyffryn Conwy. Byddwn yn ymweld â Chapel Gwydir, Eglwys Llanrhychwyn, ac Eglwys Santes Mair yn Nhrefriw. Golygfeydd da o Ddyffryn Conwy a mynyddoedd Eryri.

Hyd: Trwy’r dydd 5 – 6 awr o gerdded

Pellter: 10km / 6.5 milltir

Cyfarfod: 10:15yb yn Neuadd Bentref Trefriw, i fynd ar fws mini i Gastell Gwydir.

Dechrau: 10:30yb

Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Darganfod Natur o gwmpas Cors Bodgynydd

Dydd Sul 17eg Mai

Darganfod Natur o gwmpas Cors Bodgynydd

Taith gerdded trwy ac o gwmpas Gwarchodfa Natur Cors Bodgynydd. Cyfle i ddarganfod bioamrywiaeth arbennig yr ardal, a sut mae’n cael ei rheoli. Bydd opsiwn i gerdded i olygfannau sydd â golygfeydd eang dros y warchodfa a thuag at y Glyderau. Bydd y cyflymdra’n araf, a bydd rhai darnau byr yn arw a serth. Bydd y tir yn wlyb mewn mannau, felly gwisgwch esgidiau cerdded addas.

Hyd: Prynhawn 3 awr o gerdded

Pellter: 5km / 3 milltir

Cyfarfod: 12.15yp yn Neuadd Bentref Trefriw, i gychwyn am 12.30 pan fyddwn yn rhannu ceir i faes parcio Mwynglawdd Cyffty (CG 772 588)

Dechrau: 12.15yp

Hawdd / Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Tro gyda’r Ci yn y Goedwig 2015

Dydd Gwener 15fed Mai 2015

Tro gyda’r Ci yn y Goedwig

Dewch â’ch ci efo chi (ar dennyn) a gyda’ch gilydd fe gewch archwilio llwybrau ucheldir Coed Creigiau yng nghwmni’r Fforestwr. Wrth gerdded trwy’r coed allan o Drefriw bydd y llwybr yn mynd yn fwy serth, ond mae’n werth yr ymdrech pan welwch chi’r golygfeydd godidog o’r llynnoedd a’r mynyddoedd o’r copa.

Pellter: 3.6km / 2.5 milltir

Cyfarfod: 5.45yh ym Maes Parcio Ffordd Gower, Trefriw, i gychwyn am 6.00yh

Dechrau: 5.45yh

Hawdd / Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth a’r amodau archebu

cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Daeareg Eryri

Dydd Sul 17eg Mai

Daeareg Eryri

Bydd y daith hon yn eich cyflwyno i fraslun daeareg Eryri, hanes sydd yn llawn llosgfynyddoedd, platiau tectonig yn gwrthdaro â’i gilydd, a rhewlifoedd anferth yn malu’r dirwedd. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol am y pwnc. Yr arweinydd fydd Paul Gannon, awdur ‘Rock Trails’, y gyfres o deithlyfrau am ddaeareg a thirwedd.

Hyd: Trwy’r dydd 4 – 5 awr o gerdded

Pellter: 8km / 5 milltir

Cyfarfod: 10.15yb yn Neuadd Bentref Trefriw, i gychwyn am 10.30yb

Dechrau: 10.30yb

Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Crwydro Ymysg y Blodau Gwyllt – 2014 Copy

Dydd Sadwrn 17 Mai

Crwydro Ymysg y Blodau Gwyllt

Dyma gylchdaith hamddenol lle bydd digon o gyfleoedd i chi orffwyso ac edmygu’r blodau a’r bywyd gwyllt, yn ogystal â’r golygfeydd o Goed Creigiau y rhan o Goedwig Gwydir sydd i’r gogledd o Ddyffryn Crafnant.

Bydd rhai llwybrau yn serth ac fe allan nhw fod yn llithrig.

Hyd: 3 awr

Pellter: 6km / 4 milltir

Cyfarfod: 1.45pm, Neuadd Bentref Trefriw.

Dechrau: 2.00pm

Archebu: Joan Prime 01492 642605 / 07889 851 300

Hawdd / Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.

Olion Llwybr y Porthmyn

Dydd Sul 18 Mai 2014

Olion Llwybr y Porthmyn

Ymunwch â Warden Pharc Cenedlaethol Eryri ar gyfer taith gerdded ar hyd y mynyddoedd o Gapel Curig i Drefriw sy’n dilyn hen lwybrau’r porthmyn. Dyma gyfle gwych i glywed hen hanesion am y porthmyn ac i ddysgu mwy am fywyd gwyllt a hanes yr ardal.

Ar ôl cyrraedd Trefriw fe gawn ni fynd am dro i’r Ffair Gacennau yn y Neuadd bentref.

Hyd: 4-5 awr

Pellter: 10km / 6 milltir

Cyfarfod: 9.15am, Maes Parcio Ffordd Gower. Bydd cludiant ar gael i fan cychwyn y daith yng Nghapel Curig.

Dechrau: 9.30am

Archebu: Ceri Hughes 07769 930250 / ceritout@hotmail.com

Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.

Taith Gerdded a Nofio yn y Gwyllt – 2014

Dydd Sul 18 Mai

Taith  Gerdded a Nofio yn y Gwyllt

Byddwn yn gadael Trefriw ac yn cerdded i fyny i Lyn Geirionydd. Bydd y llwybr serth i fyny’r mynydd yn ein cynhesu i fyny – ac mi fyddan ni’n falch iawn o gael trochi yn y dŵr ar ôl cyrraedd y llyn.

Ar ôl cyrraedd gallwch newid i’ch gwisg nofio yn defnyddio’r ‘robie robes’ a ddarperir. Fe allwch chi hefyd fenthyg siwt gweithgareddau dŵr (wetsuit). Byddwch wedyn yn gallu mynd i’r llyn i nofio fel y mynnoch. Mae’r nofio yn rhan o’r daith ac ar y diwedd fe gewch chi fwynhau diod boeth a chacennau traddodiadol gan Gone Swimming.

Mae’n rhaid i chi fod yn nofiwr hyderus ond gallwch nofio ar eich cyflymder a’ch pellter eich hun. Dewch â dillad cynnes efo chi gan gynnwys het a menig. Mae fflip fflops neu Crocs yn ddefnyddiol iawn i gerdded ar dir garw.

Hyd: 2 – 3 awr

Pellter: Cerdded 2km / 1.5 milltir. Gallwch nofio unrhyw bellter (llai na 1km/1 filltir)

Sesiwn y Bore: Cyfarfod am 8.45am er mwyn dechrau am 9.00am, Neuadd Bentref Trefriw

Sesiwn y Prynhawn: Cyfarfod am 12.45pm er mwyn dechrau am 1.00pm, Neuadd Bentref Trefriw

Darperir cludiant yn ôl i Neuadd Bentref Trefriw o Lyn Geirionydd.

Archebu: Gabby Dickenson 07547 652 821 / Dan Graham 07941 038 568

info@goneswimming.co.uk

Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.

Yng Nghysgod y Wrach – 2014

Dydd Sul 18 Mai

Yng Nghysgod y Wrach

O’r man cyfarfod byddwn yn dal bws (bydd yn rhaid talu os nad oes gennych chi docyn bws) i fan cychwyn y daith yng Nghapel Curig. O’r man yma byddwn yn cerdded i fyny i’r gweundir uwchlaw Dyffryn Ogwen ac i Lyn Cowlyd. Ar ein ffordd yn ôl i Drefriw byddwn yn mynd ar hyd llwybr Pen y Craig Gron a thrwy Ddyffryn Crafnant.

Mae rhai golygfeydd da o’r daith gerdded hon o’r ystodau gogleddol Eryri.

Yn anffodus, ni chaniateir cŵn.

Gall fod yn wlyb o dan draed mewn rhannau o’r daith hon, mae esgidiau cerdded da yn hanfodol, ac awgrymwn eich bod yn gwisgo coesarnau.

Hyd: 6.5 – 7.5 awr (gan gynnwys 1 awr o deithio). Byddwn yn dychwelyd i Drefriw rhwng 3.00pm a 4.00pm.

Pellter: 14km / 8 milltir. Esgyniad o 370 metr / 1200 troedfedd

Cyfarfod: 8.00am, Maes Parcio Ffordd Gower, Trefriw

Dechrau: 8.15am

Archebu: Peter Collins 01492 680353

Os ydych chi’n gadael neges cofiwch gynnwys eich rhif ffôn .

Caled

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.

Crwydro Ymysg y Blodau Gwyllt – 2014

Dydd Sadwrn 17 Mai

Crwydro Ymysg y Blodau Gwyllt

Dyma gylchdaith hamddenol lle bydd digon o gyfleoedd i chi orffwyso ac edmygu’r blodau a’r bywyd gwyllt, yn ogystal â’r golygfeydd o Goed Creigiau y rhan o Goedwig Gwydir sydd i’r gogledd o Ddyffryn Crafnant.

Bydd rhai llwybrau yn serth ac fe allan nhw fod yn llithrig.

Hyd: 3 awr

Pellter: 6km / 4 milltir

Cyfarfod: 1.45pm, Neuadd Bentref Trefriw.

Dechrau: 2.00pm

Archebu: Joan Prime 01492 642605 / 07889 851 300

Hawdd / Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.

Taith Gerdded Coedwriaeth – 2014

Dydd Sadwrn 17 Mai

Taith Gerdded Coedwriaeth

Dewch draw am sesiwn o ‘gerdded crefft bren’ ar gyfer teuluoedd lle, gallwn ddarganfod rhai o gyfrinachau byw yn y gwyllt ac adeiladu ffau yn y gwyllt o amgylch Trefriw. Yn anffodus, ni chaniateir cŵn.

Hyd: 7 awr

Pellter: 5km / 3 milltir

Cyfarfod: 9.45am er mwyn dechrau am 10.00am, Neuadd Bentref Trefriw

ArchebuJen Towill 01492 575543 (Dydd Llun – Dydd Gwener) neu ebost  jennifer.towill2@conwy.gov.uk

Hawdd

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.

Ucheldir Trefriw – 2014

Dydd Sadwrn 17 Mai

Ucheldir Trefriw

Bydd y daith hon yn mynd â ni ar hyd rhai o’r ardaloedd llai adnabyddus y gallwn ni gerdded atyn nhw o Drefriw.

Byddwn yn dilyn llwybrau mynyddig a fydd yn serth ac yn arw ar adegau.

Ar ddiwrnod clir bydd modd i ni weld Sir Conwy ac Eryri ar eu gorau.

Mae’n bur debyg y bydd y tir yn wlyb, felly awgrymwn eich bod yn gwisgo esgidiau da a choesarnau.

Hyd: 6 awr

Pellter: 14km / 9 milltir

Cyfarfod: 9.15am, Neuadd Bentref Trefriw.

Dechrau: 9.30am

Archebu: Jen Towill 01492 575543 / jennifer.towill2@conwy.gov.uk (Llun-Gwener)

Caled

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.

Afonydd Crafnant a Chonwy – Taith ar Gyfer Dysgwyr Cymraeg – 2014

Dydd Sadwrn 17 Mai

Afonydd Crafnant a Chonwy – Taith ar Gyfer Dysgwyr Cymraeg  

Os ydych chi’n dysgu Cymraeg neu’n adnabod rhywun sy’n dysgu Cymraeg, yna mae’r daith hon yn gyfle gwych i ymarfer.

Byddwn yn cerdded ar hyd afonydd Crafnant a Chonwy ac yna’n ymweld ag Eglwys y Santes Fair lle cawn ddysgu am Dywysogion Gwynedd. Mae croeso i chi ymuno â ni yn y dafarn am ginio wedyn.

Hyd: 2 awr

Pellter: 5km / 3 milltir

Cyfarfod: 9.45am, Neuadd Bentref Trefriw.

Dechrau: 10.00am

Archebu: Eifion Jones 01745 870656 / 07584 413 400

Hawdd / Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.

Mwyngloddiau a Hanes Coedwig Gwydyr

Dydd Gwener 16 Mai

Mwyngloddiau a Hanes Coedwig Gwydyr

Dyma daith trwy un o ardaloedd mwyaf rhyfeddol Eryri. Dewch i glywed hanes a chwedlau’r ardal a theithio yn ôl i’r gorffennol!

Ar y daith byddwn yn dod ar draws hen fwyngloddiau plwm o Oes Fictoria ac adfeilion o’r Oes Efydd uwchlaw Llyn Geirionydd. Yn anffodus, ni chaniateir cŵn.

Hyd: 5 awr

Pellter: 7km / 4.5 milltir

Cyfarfod: 12.00pm, Neuadd Bentref Trefriw. Darperir cludiant i fan cychwyn y daith  (maes parcio Hafna, Nant BH).

Dechrau: 12.15pm

Archebu: David Bathers  (neges destun os yn bosibl)   07771 801943

Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.

Cyflwyniad i Geocelcio i Bawb – 2014

Dydd Gwener 16 Mai

Cyflwyniad i Geocelcio i Bawb  

Mae’r daith hon yn rhoi cyflwyniad i chi i geocelcio. Byddwch yn cael sgwrs sydyn am ddatblygiad y gamp a beth yn union sy’n rhaid i chi ei wneud wrth geocelcio. I ffwrdd â ni wedyn i chwilota am guddstorau lleol yn defnyddio offer GPS sydd wedi eu rhaglennu’n barod (bydd yr arweinydd yn darparu’r rhain). Byddwn hefyd yn defnyddio mapiau ac yn datrys posau.

Byddwn yn dechrau’r daith drwy chwilio am guddstorau ar dir gwastad, ac yna byddwn yn chwilota am guddstorau ar eintaith (sydd ychydig anoddach).

Mae modd i ni addasu’r rhaglen i ddiwallu anghenion a ffitrwydd y grŵp.

Dyma weithgaredd gwych i bawb. Nid taith gerdded mohoni mewn gwirionedd ond helfa drysor!

Hyd: 2 awr

Pellter: 5.5km / 4 milltir

Cyfarfod: 12.45pm, Neuadd Bentref Trefriw

Dechrau: 1.00pm

Archebu: 01758 760652    enquires@geocachingwales.co.uk

Hawdd / Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.

Cerdded er Budd Iechyd – 2014

Dydd Gwener 16 Mai

Cerdded er Budd Iechyd

Taith hamddenol ar hyd Ffordd Gower i’r bont grog ac yn ôl. Bydd golygfeydd gwerth chweil o Ddyffryn Conwy a’r mynyddoedd cyfagos.

Mae’r daith hon yn ddelfrydol i’r rheiny ohonoch chi sydd eisiau rhoi cynnig ar gerdded llwybrau am y tro cyntaf, neu sydd eisiau mynd am dro a chyfarfod pobl newydd.

Mae’r daith hon yn addas i fabanod mewn pramiau a phobl mewn cadeiriau olwyn. 

Hyd: 1 awr

Pellter: 3km / 2 filltir

Cyfarfod: 10.45am, Neuadd Bentref Trefriw

Dechrau: 11.00am

Archebu: Nid oes angen archebu.

Hawdd

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.

Geocelcio ar gyfer Disgyblion Ysgol Trefriw – 2014

Dydd Gwener 16 Mai

Geocelcio ar gyfer Disgyblion Ysgol Trefriw

Fore dydd Gwener bydd plant Ysgol Trefriw yn cael cyfle i gymryd rhan yn yr ŵyl a rhoi cynnig ar geocelcio. Byddan nhw’n mynd o amgylch Trefriw yn ceisio dod o hyd i guddstorau ac yn rhoi eu sgiliau helfa drysor ar waith yn defnyddio offer GPS a mapiau.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.

Taith Hanes yn Ucheldiroedd Trefriw – 2014

Dydd Gwener 16 Mai

Taith Hanes yn Ucheldiroedd Trefriw

Ar y daith hon byddwn yn dilyn llwybrau coedwig ac ucheldir ac yn ymweld â safleoedd hanesyddol ar y mynyddoedd uwchlaw Trefriw. Byddwn yn galw heibio Tyddyn Wilym (lle ganwyd y bardd Gwilym Cowlyd); capel diffaith; adfeilion pentref canoloesol Ardda; hen fwynglawdd sylffwr, a melin ddŵr.

Ar ddiwrnod braf o haf mae’r golygfeydd o Ddyffryn Conwy ac Eryri yn werth eu gweld.

Mae rhai o’r llwybrau yn serth ac yn anwastad. Dewch â phecyn bwyd efo chi, esgidiau cerdded a dillad glaw.

Hyd: 6 awr

Pellter: 11km / 7 milltir

Cyfarfod: 9.45am, Neuadd Bentref Trefriw

Dechrau: 10.00am

Archebu: Karen a Jim Black 01492 640329 brynhafod@hotmail.co.uk

Cymedrol / Caled

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.

Tro gyda’r Ci yn y Goedwig – 2014

Dydd Iau 15 Mai

Tro gyda’r Ci yn y Goedwig

Dewch â’ch ci efo chi (ar dennyn) a gyda’ch gilydd fe gewch archwilio llwybrau ucheldir Coed Creigiau yng nghwmni’r Fforestwr. Wrth gerdded trwy’r coed allan o Drefriw bydd y llwybr yn mynd yn fwy serth, ond mae’n werth yr ymdrech pan welwch chi’r golygfeydd godidog o’r llynnoedd a’r mynyddoedd o’r copa. Cofiwch wisgo esgidiau cryfion.

Hyd: 2 awr

Pellter: 3.6km / 2.5 milltir

Cyfarfod: 5.45pm, Maes Parcio Ffordd Gower, Trefriw

Dechrau: 6.00pm

Archebu: gareth.g.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Hawdd / Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.