Cerdded er Budd Iechyd – 2014

Dydd Gwener 16 Mai

Cerdded er Budd Iechyd

Taith hamddenol ar hyd Ffordd Gower i’r bont grog ac yn ôl. Bydd golygfeydd gwerth chweil o Ddyffryn Conwy a’r mynyddoedd cyfagos.

Mae’r daith hon yn ddelfrydol i’r rheiny ohonoch chi sydd eisiau rhoi cynnig ar gerdded llwybrau am y tro cyntaf, neu sydd eisiau mynd am dro a chyfarfod pobl newydd.

Mae’r daith hon yn addas i fabanod mewn pramiau a phobl mewn cadeiriau olwyn. 

Hyd: 1 awr

Pellter: 3km / 2 filltir

Cyfarfod: 10.45am, Neuadd Bentref Trefriw

Dechrau: 11.00am

Archebu: Nid oes angen archebu.

Hawdd

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.