Dydd Gwener 16 Mai
Cyflwyniad i Geocelcio i Bawb
Mae’r daith hon yn rhoi cyflwyniad i chi i geocelcio. Byddwch yn cael sgwrs sydyn am ddatblygiad y gamp a beth yn union sy’n rhaid i chi ei wneud wrth geocelcio. I ffwrdd â ni wedyn i chwilota am guddstorau lleol yn defnyddio offer GPS sydd wedi eu rhaglennu’n barod (bydd yr arweinydd yn darparu’r rhain). Byddwn hefyd yn defnyddio mapiau ac yn datrys posau.
Byddwn yn dechrau’r daith drwy chwilio am guddstorau ar dir gwastad, ac yna byddwn yn chwilota am guddstorau ar eintaith (sydd ychydig anoddach).
Mae modd i ni addasu’r rhaglen i ddiwallu anghenion a ffitrwydd y grŵp.
Dyma weithgaredd gwych i bawb. Nid taith gerdded mohoni mewn gwirionedd ond helfa drysor!
Hyd: 2 awr
Pellter: 5.5km / 4 milltir
Cyfarfod: 12.45pm, Neuadd Bentref Trefriw
Dechrau: 1.00pm
Archebu: 01758 760652 enquires@geocachingwales.co.uk
Hawdd / Cymedrol
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.