Dydd Gwener 16 Mai
Mwyngloddiau a Hanes Coedwig Gwydyr
Dyma daith trwy un o ardaloedd mwyaf rhyfeddol Eryri. Dewch i glywed hanes a chwedlau’r ardal a theithio yn ôl i’r gorffennol!
Ar y daith byddwn yn dod ar draws hen fwyngloddiau plwm o Oes Fictoria ac adfeilion o’r Oes Efydd uwchlaw Llyn Geirionydd. Yn anffodus, ni chaniateir cŵn.
Hyd: 5 awr
Pellter: 7km / 4.5 milltir
Cyfarfod: 12.00pm, Neuadd Bentref Trefriw. Darperir cludiant i fan cychwyn y daith (maes parcio Hafna, Nant BH).
Dechrau: 12.15pm
Archebu: David Bathers (neges destun os yn bosibl) 07771 801943
Cymedrol
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.