All posts by Mike TWF

Canfod eich Ffordd – Gweithdai Darllen Map – 2014

Dydd Gwener 15 Mai

Canfod eich FforddGweithdai Darllen Map

Bydd cynnwys y gweithdai yn dibynnu ar anghenion y cyfranogwyr. Os hoffech chi ymuno â ni mae croeso i chi gysylltu ag Arweinydd y Daith o flaen llaw i weld pa weithdy sydd fwyaf addas i chi (efallai bydd y ddau weithdy o gymorth i chi!). Nod y gweithdai yw helpu pobl i gynllunio’u llwybr, darllen mapiau sylfaenol, darllen cyfeirnodau grid, dehongli cyfuchlinau, defnyddio cwmpawd, rheoli cyflymder ac amseru.

Bydd y sesiynau yn dechrau gyda chyflwyniad byr ar y testunau ac yna bydd taith gerdded 3-5km (2-3 milltir) yn ardal Trefriw er mwyn i chi roi’ch sgiliau ar waith.

Hyd: Gweithdy 4 awr (gan gynnwys taith gerdded o ddwy awr)

Pellter: 3-5km / 2-3 milltir

Sesiwn y Bore: Cyfarfod am 8.45am er mwyn dechrau am 9.00am, Neuadd Bentref Trefriw

Sesiwn y Prynhawn: Cyfarfod am 12.45pm er mwyn dechrau am 1.00pm, Neuadd Bentref Trefriw

Archebu: Peter Collins 01492 680353

Os ydych chi’n gadael neges cofiwch gynnwys eich rhif ffôn.

Esgidiau cerdded yn hanfodol. Nifer cyfyngedig o gyfranogwyr.

Hawdd / Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.

Argaeau, Tyrbinau, y Bwthyn ger y llyn du a… Chwedlau Llyn Dulyn! – 2014

Dydd Iau 15 Mai

Argaeau, Tyrbinau, y Bwthyn ger y llyn du a…. Chwedlau Llyn Dulyn!

Mae’r daith fynyddig hon yn mynd â ni ar hyd mynyddoedd “uchaf y Carneddau”. Ar ein ffordd byddwn yn dod ar draws hen furiau argae Eigiau, tyrbinau sy’n bwydo’r grid trydanol cenedlaethol a chors garw a fydd yn mynd â ni at Lyn Dulyn. Er mawr syndod i chi, byddwn yn dod ar draws hen fwthyn bach del lle cawn eistedd a chael tamaid i ginio (dewch â phecyn bwyd a diod efo chi). Ar ôl cinio byddwn yn cerdded yn nes at y llyn ac i fyny llwybr serth y mwynwyr. Yna fe ddown ar draws llyn arall, Llyn Melynllyn, a chawn gyfle i edrych ar y llyn mawreddog islaw Carnedd Llywelyn a Foel Grach. Byddwn wedyn yn dod ar draws y llwybr a fydd yn ein tywys yn ôl i fan cychwyn y daith – bydd y golygfeydd o Ben Llithrig y Wrach yn rhagorol. Gwisgwch ddillad addas ac esgidiau cerdded mynyddoedd.

Hyd: 7 awr (6 awr o gerdded)

Pellter: 9.5km / 6 milltir

Cyfarfod: 9.45am, Neuadd Bentref Trefriw. Bydd cludiant ar gael i fan cychwyn y daith.

Dechrau: 10.00am

Archebu: David Bathers (neges destun os yn bosibl) 07771801943

Cymedrol / Caled

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.

Taith Hanesyddol Trefriw – 2014

Dydd Gwener 15 Mai

Taith Hanesyddol Trefriw

Bydd dau aelod o’r Gymdeithas Hanes Leol yn ein tywys ni ar daith trwy hanes Trefriw. O gyfnod cythryblus Llywelyn Fawr a’i wraig Siwan i’r Oes Fictoria a’r torfeydd a ddaeth ar longau stêm i Drefriw i brofi dyfroedd y Ffynhonnau Rhufeinig ac i gymdeithasu yng Ngwesty’r Belle Vue.

Mae’n bosib ymestyn y daith hon  o 2.5km / 1.5 milltir ychwanegol a cherdded i Bont Gower lle cewch olygfeydd godidog o Ddyffryn Conwy.

Hyd: 2 awr (neu daith estynedig o 3 awr)

Pellter: 3km / 2 filltir (neu 5.5km / 3.5 milltir)

Cyfarfod: 9.45am, Neuadd Bentref Trefriw

Dechrau: 10.00am

Archebu: Karen a Jim Black 01492 640329 brynhafod@hotmail.co.uk

Hawdd / Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.