Dydd Iau 15 Mai
Argaeau, Tyrbinau, y Bwthyn ger y llyn du a…. Chwedlau Llyn Dulyn!
Mae’r daith fynyddig hon yn mynd â ni ar hyd mynyddoedd “uchaf y Carneddau”. Ar ein ffordd byddwn yn dod ar draws hen furiau argae Eigiau, tyrbinau sy’n bwydo’r grid trydanol cenedlaethol a chors garw a fydd yn mynd â ni at Lyn Dulyn. Er mawr syndod i chi, byddwn yn dod ar draws hen fwthyn bach del lle cawn eistedd a chael tamaid i ginio (dewch â phecyn bwyd a diod efo chi). Ar ôl cinio byddwn yn cerdded yn nes at y llyn ac i fyny llwybr serth y mwynwyr. Yna fe ddown ar draws llyn arall, Llyn Melynllyn, a chawn gyfle i edrych ar y llyn mawreddog islaw Carnedd Llywelyn a Foel Grach. Byddwn wedyn yn dod ar draws y llwybr a fydd yn ein tywys yn ôl i fan cychwyn y daith – bydd y golygfeydd o Ben Llithrig y Wrach yn rhagorol. Gwisgwch ddillad addas ac esgidiau cerdded mynyddoedd.
Hyd: 7 awr (6 awr o gerdded)
Pellter: 9.5km / 6 milltir
Cyfarfod: 9.45am, Neuadd Bentref Trefriw. Bydd cludiant ar gael i fan cychwyn y daith.
Dechrau: 10.00am
Archebu: David Bathers (neges destun os yn bosibl) 07771801943
Cymedrol / Caled
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.