Dydd Gwener 15fed Mai 2015
Taith Gerdded Dau Lyn Trefriw
Taith gerdded benigamp o’r pentref, sydd yn ffefryn i bobl leol. Mae’n ymweld â Llyn Geirionydd a Llyn Crafnant, gan basio trwy goedydd brodorol, a heibio i hen fwyngloddiau a llefydd sydd â hanes barddol. Mae’r daith yn gwneud defnydd da o hen lwybrau’r mwyngloddwyr. Mae opsiwn hir ac un byr – gwneir dewis ar y diwrnod.Arweinir gan Mike Raine, awdur ‘Nature of Snowdonia’.
Hyd: Bore, hyd at 3 awr
Pellter: Hyd at 10km / 6.6 milltir
Cymedrol
Dwy Eglwys a Chapel
TDwy Eglwys a Chapel
Full – No More Bookings Please
Taith gerdded unffordd o Gastell Gwydir i Drefriw ar ochr y bryn uwchben Dyffryn Conwy. Byddwn yn ymweld â Chapel Gwydir, Eglwys Llanrhychwyn, ac Eglwys Santes Mair yn Nhrefriw. Golygfeydd da o Ddyffryn Conwy a mynyddoedd Eryri.
Hyd: Trwy’r dydd 5 – 6 awr o gerdded
Pellter: 10km / 6.5 milltir
Cyfarfod: 10:15yb yn Neuadd Bentref Trefriw, i fynd ar fws mini i Gastell Gwydir.
Dechrau: 10:30yb
Cymedrol
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Dydd Sul 17eg Mai
Darganfod Natur o gwmpas Cors Bodgynydd
Taith gerdded trwy ac o gwmpas Gwarchodfa Natur Cors Bodgynydd. Cyfle i ddarganfod bioamrywiaeth arbennig yr ardal, a sut mae’n cael ei rheoli. Bydd opsiwn i gerdded i olygfannau sydd â golygfeydd eang dros y warchodfa a thuag at y Glyderau. Bydd y cyflymdra’n araf, a bydd rhai darnau byr yn arw a serth. Bydd y tir yn wlyb mewn mannau, felly gwisgwch esgidiau cerdded addas.
Hyd: Prynhawn 3 awr o gerdded
Pellter: 5km / 3 milltir
Cyfarfod: 12.15yp yn Neuadd Bentref Trefriw, i gychwyn am 12.30 pan fyddwn yn rhannu ceir i faes parcio Mwynglawdd Cyffty (CG 772 588)
Dechrau: 12.15yp
Hawdd / Cymedrol
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Dydd Gwener 15fed Mai 2015
Tro gyda’r Ci yn y Goedwig
Dewch â’ch ci efo chi (ar dennyn) a gyda’ch gilydd fe gewch archwilio llwybrau ucheldir Coed Creigiau yng nghwmni’r Fforestwr. Wrth gerdded trwy’r coed allan o Drefriw bydd y llwybr yn mynd yn fwy serth, ond mae’n werth yr ymdrech pan welwch chi’r golygfeydd godidog o’r llynnoedd a’r mynyddoedd o’r copa.
Pellter: 3.6km / 2.5 milltir
Cyfarfod: 5.45yh ym Maes Parcio Ffordd Gower, Trefriw, i gychwyn am 6.00yh
Dechrau: 5.45yh
Hawdd / Cymedrol
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth a’r amodau archebu
cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Dydd Sul 17eg Mai
Daeareg Eryri
Bydd y daith hon yn eich cyflwyno i fraslun daeareg Eryri, hanes sydd yn llawn llosgfynyddoedd, platiau tectonig yn gwrthdaro â’i gilydd, a rhewlifoedd anferth yn malu’r dirwedd. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol am y pwnc. Yr arweinydd fydd Paul Gannon, awdur ‘Rock Trails’, y gyfres o deithlyfrau am ddaeareg a thirwedd.
Hyd: Trwy’r dydd 4 – 5 awr o gerdded
Pellter: 8km / 5 milltir
Cyfarfod: 10.15yb yn Neuadd Bentref Trefriw, i gychwyn am 10.30yb
Dechrau: 10.30yb
Cymedrol
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
20 o deithiau cerdded! Rhywbeth i bawb!