Dydd Gwener 15fed Mai 2015
Tro gyda’r Ci yn y Goedwig
Dewch â’ch ci efo chi (ar dennyn) a gyda’ch gilydd fe gewch archwilio llwybrau ucheldir Coed Creigiau yng nghwmni’r Fforestwr. Wrth gerdded trwy’r coed allan o Drefriw bydd y llwybr yn mynd yn fwy serth, ond mae’n werth yr ymdrech pan welwch chi’r golygfeydd godidog o’r llynnoedd a’r mynyddoedd o’r copa.
Pellter: 3.6km / 2.5 milltir
Cyfarfod: 5.45yh ym Maes Parcio Ffordd Gower, Trefriw, i gychwyn am 6.00yh
Dechrau: 5.45yh
Hawdd / Cymedrol
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth a’r amodau archebu
cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.