Dydd Sul 17eg Mai
Daeareg Eryri
Bydd y daith hon yn eich cyflwyno i fraslun daeareg Eryri, hanes sydd yn llawn llosgfynyddoedd, platiau tectonig yn gwrthdaro â’i gilydd, a rhewlifoedd anferth yn malu’r dirwedd. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol am y pwnc. Yr arweinydd fydd Paul Gannon, awdur ‘Rock Trails’, y gyfres o deithlyfrau am ddaeareg a thirwedd.
Hyd: Trwy’r dydd 4 – 5 awr o gerdded
Pellter: 8km / 5 milltir
Cyfarfod: 10.15yb yn Neuadd Bentref Trefriw, i gychwyn am 10.30yb
Dechrau: 10.30yb
Cymedrol
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.