Dydd Sul 17eg Mai
Darganfod Natur o gwmpas Cors Bodgynydd
Taith gerdded trwy ac o gwmpas Gwarchodfa Natur Cors Bodgynydd. Cyfle i ddarganfod bioamrywiaeth arbennig yr ardal, a sut mae’n cael ei rheoli. Bydd opsiwn i gerdded i olygfannau sydd â golygfeydd eang dros y warchodfa a thuag at y Glyderau. Bydd y cyflymdra’n araf, a bydd rhai darnau byr yn arw a serth. Bydd y tir yn wlyb mewn mannau, felly gwisgwch esgidiau cerdded addas.
Hyd: Prynhawn 3 awr o gerdded
Pellter: 5km / 3 milltir
Cyfarfod: 12.15yp yn Neuadd Bentref Trefriw, i gychwyn am 12.30 pan fyddwn yn rhannu ceir i faes parcio Mwynglawdd Cyffty (CG 772 588)
Dechrau: 12.15yp
Hawdd / Cymedrol
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.