Dydd Gwener 16 Mai
Taith Hanes yn Ucheldiroedd Trefriw
Ar y daith hon byddwn yn dilyn llwybrau coedwig ac ucheldir ac yn ymweld â safleoedd hanesyddol ar y mynyddoedd uwchlaw Trefriw. Byddwn yn galw heibio Tyddyn Wilym (lle ganwyd y bardd Gwilym Cowlyd); capel diffaith; adfeilion pentref canoloesol Ardda; hen fwynglawdd sylffwr, a melin ddŵr.
Ar ddiwrnod braf o haf mae’r golygfeydd o Ddyffryn Conwy ac Eryri yn werth eu gweld.
Mae rhai o’r llwybrau yn serth ac yn anwastad. Dewch â phecyn bwyd efo chi, esgidiau cerdded a dillad glaw.
Hyd: 6 awr
Pellter: 11km / 7 milltir
Cyfarfod: 9.45am, Neuadd Bentref Trefriw
Dechrau: 10.00am
Archebu: Karen a Jim Black 01492 640329 brynhafod@hotmail.co.uk
Cymedrol / Caled
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.