Dydd Sul 18 Mai
Yng Nghysgod y Wrach
O’r man cyfarfod byddwn yn dal bws (bydd yn rhaid talu os nad oes gennych chi docyn bws) i fan cychwyn y daith yng Nghapel Curig. O’r man yma byddwn yn cerdded i fyny i’r gweundir uwchlaw Dyffryn Ogwen ac i Lyn Cowlyd. Ar ein ffordd yn ôl i Drefriw byddwn yn mynd ar hyd llwybr Pen y Craig Gron a thrwy Ddyffryn Crafnant.
Mae rhai golygfeydd da o’r daith gerdded hon o’r ystodau gogleddol Eryri.
Yn anffodus, ni chaniateir cŵn.
Gall fod yn wlyb o dan draed mewn rhannau o’r daith hon, mae esgidiau cerdded da yn hanfodol, ac awgrymwn eich bod yn gwisgo coesarnau.
Hyd: 6.5 – 7.5 awr (gan gynnwys 1 awr o deithio). Byddwn yn dychwelyd i Drefriw rhwng 3.00pm a 4.00pm.
Pellter: 14km / 8 milltir. Esgyniad o 370 metr / 1200 troedfedd
Cyfarfod: 8.00am, Maes Parcio Ffordd Gower, Trefriw
Dechrau: 8.15am
Archebu: Peter Collins 01492 680353
Os ydych chi’n gadael neges cofiwch gynnwys eich rhif ffôn tý.
Caled
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw teithiau cerdded.