Category Archives: 2016 Archive

Olion Llwybr y Porthmyn

Dydd Sadwrn 21ain Mai

Olion Llwybr y Porthmyn

Taith gerdded ar hyd y mynyddoedd o Gapel Curig i Drefriw sy’n dilyn hen lwybrau’r porthmyn. Dyma gyfle gwych i glywed hen hanesion am y porthmyn ac i ddysgu mwy am fywyd gwyllt a hanes yr ardal.

Hyd: Trwy’r dydd 5 awr o gerdded

Pellter: 10km / 6.5 milltir

Cyfarfod: 9:45 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)wedyn dal cludiant i Gaffi Siabod man cychwyn y daith.

Arweinyddion: Dave Prime, arweinydd efo Cerdded Conwy

+++++++++++  Jim Black Y Gymdeithas Hanes Lleol

Gradd: Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Gellir archebu rŵan

O Fetws-y-coed i Drefriw

Dydd Gwener 20fed Mai

O Fetws-y-coed i Drefriw

Byddwn yn teithio i fyny Dyffryn Conwy i Fetws-y-coed ar gludiant cyhoeddus, i gychwyn y daith gerdded yn ôl i Drefriw ar y bryniau uwchben Dyffryn Conwy. Ceir golygfeydd ardderchog o’r bryniau o gwmpas, gan gynnwys mynyddoedd Eryri. Hefyd byddwn yn ymweld â nifer  o lynnoedd a safleoedd hanesyddol ar y llwybr yn ôl i Drefriw.

Hyd : 5 awr

Pellter : 10 Km / 6 milltir

Cyfarfod : 10.10yb yn  Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i ddal cludiant cyhoeddus

+++++++++++(bydd rhaid i chi brynu tocyn)

Gradd : Cymedrol

Arweinwyr : John Barber a Dave Prime, arweinydd efo Cerdded Conwy

Cyfaddasrwydd: Pawb sydd yn weddol heini

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Gellir archebu rŵan.

Dros y Topiau

Dydd Sul 22ain Mai

Dros y Topiau

Taith o Gapel Curig i Drefriw dros gopâu megis y Crimpiau, Craig Wen a’r Creigiau Gleision. Bydd y tir yn arw dan draed, efo llwybrau cul, a bydd rhai o’r dringo’n serth. Byddwn yn ôl mewn pryd i ymuno â’r Ffair Gacennau yn y Neuadd Bentref.

Hyd: Trwy’r dydd 6 awr o gerdded

Pellter: 13km / 8 milltir

Cyfarfod: 8.45yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631), ar gyfer cludiant i Gaffi Siabod, man cychwyn y daith

Taith Fynydd Galed

Nodwch os gwelwch yn dda – Bydd Hanner Marathon yn pasio trwy Drefriw ar fore Sul, yr 22ain.  Mae’n bosib bydd ffyrdd lleol ar gau o 8yb ymlaen, ac er bydd mynediad i bobl fydd yn mynychu’r Ŵyl Gerdded, awgrymir y dylech chi adael ychydig mwy o amser ar gyfer eich siwrnai.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Gellir archebu rŵan.

Taith Gerdded Ffotograffiaeth – x 2 sesiwn

Dydd Sadwrn 21ain Mai 2016

Taith Gerdded Ffotograffiaeth – x 2 sesiwn

Taith gerdded trwy dir coediog, gan ymweld â rhaeadrau a dau lyn hardd. Bydd Nick Livesey wrth law i gynnig cyngor arbennig ar ffotograffiaeth tirlun, ac i ateb cwestiynau am hanes a daeareg yr ardal.

Hyd: 3.5 awr

Pellter: 4 milltir

Arweinydd: Nick Livesey, Ffotograffydd tirlun dawnus

Gradd: Cymedrol

Cyfarfod: Bore 8.45 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Gellir archebu rŵan

Cyfarfod: Prynhawn 1.15 yp yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Chwilota mewn Nature i Deuluoedd

Dydd Sul 22ain Mai

Chwilota mewn Nature i Deuluoedd

Mae hon yn daith gerdded efo gweithgareddau i’r teulu, a arweinir gan Pete Kay o Ryd y creuau, The Drapers’ Field Centre ym Metws y coed.

Bydd y daith yn cyfuno gemau amgylcheddol a gweithgareddau efo dysgu mwy am hanes yr ardal a’r bywyd gwyllt i’w weld yn y caeau, coed a nentydd uwchben Trefriw.

Byddwn yn cerdded o Drefriw i Ddyffryn Crafnant, lle byddwn yn chwilio am fywyd yn y nentydd, chwilio am minibeasts, a chael helfeydd sborion (scavenger hunts).  Byddwn hefyd yn chwilota am fwyd gwyllt wrth fwynhau‘n hunain yn yr ardal brydferth hon.

Fydd y daith ddim yn galed, ond dylech chi wisgo esgidiau addas gan na fyddwn ni bob amser ar lwybrau.

Hyd: 5 awr

Pellter: km / 3 milltir

Cyfarfod:  9.00 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Gradd: Hawdd

Nodwch os gwelwch yn dda – Bydd Hanner Marathon yn pasio trwy Drefriw ar fore Sul, yr 22ain.  Mae’n bosib bydd ffyrdd lleol ar gau o 8yb ymlaen, ac er bydd mynediad i bobl fydd yn mynychu’r Ŵyl Gerdded, awgrymir y dylech chi adael ychydig mwy o amser ar gyfer eich siwrnai.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded

Gellir archebu rŵan.

Melinau a Mwyngloddiau, a mwy

Dydd Sul 22ain Mai 2016

Melinau a Mwyngloddiau, a mwy

Taith gerdded uwchben Dyffryn Crafnant i safle hen fwynglawdd Pandora, sydd â golygfeydd gwych. Cinio wrth Lyn Geirionydd (dowch â phecyn bwyd) lle mae toiledau. Mae’r llwybr yn ôl i Drefriw ar lan y llyn a thrwy Klondyke yn fwy anwastad.

Ceir hyd i bob math o hanes lleol, ond bydd y pwyslais ar daith gerdded sydd yn ysblennydd yn ei rhinwedd ei hun. Gwisgwch esgidiau cerdded. Byddwn yn ôl yn Nhrefriw mewn pryd i ymuno â’r Ŵyl Gacennau yn neuadd y pentref.

Hyd: Trwy’r dydd,  5 awr

Pellter: 11 km / 7 milltir

Cyfarfod: 0930 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631).

Gradd: Cymedrol

Arweinyddion: Tony Ellis awdur pedwar llyfr cerdded lleol, a Warden Gwirfoddol ar yr Wyddfa

++++++++++++Colin Boyd arbenigwr mewn Addysg Awyr Agored

Nodwch os gwelwch yn dda – Bydd Hanner Marathon yn pasio trwy Drefriw ar fore Sul, yr 22ain.  Mae’n bosib bydd ffyrdd lleol ar gau o 8yb ymlaen, ac er bydd mynediad i bobl fydd yn mynychu’r Ŵyl Gerdded, awgrymir y dylech chi adael ychydig mwy o amser ar gyfer eich siwrnai.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded

Gellir archebu rŵan.

Argaeau a Thyrbinau

Gwener 20fed Mai 2016

Argaeau a Thyrbinau

Clasur o daith gerdded yn y mynyddoedd. Ymwelwn â’r tyrbinau ‘newydd’ cyn croesi’r gweundir hyd at ‘bothy’ anghysbell yn y Carneddau, lle cawn ginio. Wedyn cerddwn i Lyn Dulyn i glywed am ei chwedlau a chyfrinachau tywyll. Wedyn dilynwn lwybr serth y mwyngloddwyr i lyn arall i ddysgu pam bu’r hen weithfeydd cyfagos mor bwysig. Dychwelwn i’r man cychwyn ar lwybr llydan.

Hyd: Trwy’r dydd 6 awr o gerdded

Pellter: 9km / 6 milltir

Cyafarfod: 9.45yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631), pan fyddwn yn rhannu ceir i fan cychwyn y daith.

Cymedrol / Caled

Walk Leaders:  Jim Black, Cymdeithas Hanesyddol Trefriw

++++++++++++Chris Shaw former Senior Instructor: The Towers Outdoor Centre

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Y diweddaraf: Mae ‘na lefydd ar gael felly rhowch eich enw ar y rhestr aros os ydach chi isio siawns o gael tocynnau sy wedi’u dychwelyd.
Cliciwch ar “Add to waitlist” i gael gwybod os bydd ‘na gansladau neu os daw tocynnau ar gael.

Hanes Naturiol Eryri

Dydd Sul 22 ain Mai 2016

Hanes Naturiol Eryri

Byddwn yn dilyn hen lwybr y porthmyn, mynd trwy hen goetir, pasio hen fwyngloddiau, a chroesi gweundir.  Dyma gyfle i ddysgu am yr hanes folcanig a thectonig sydd wedi creu’r creigiau a’r dirwedd yn Eryri.

Hyd: Trwy’r dydd 5 awr

Pellter: 11km / milltir

Cyfarfod: 9.15 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Gradd: Cymedrol

Arweinydd: Jim Langley o Nature’s Work

Nodwch os gwelwch yn dda – Bydd Hanner Marathon yn pasio trwy Drefriw ar fore Sul, yr 22ain.  Mae’n bosib bydd ffyrdd lleol ar gau o 8yb ymlaen, ac er bydd mynediad i bobl fydd yn mynychu’r Ŵyl Gerdded, awgrymir y dylech chi adael ychydig mwy o amser ar gyfer eich siwrnai.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Y diweddaraf:   Mae ‘na lefydd ar gael felly rhowch eich enw ar y rhestr aros os ydach chi isio siawns o gael tocynnau sy wedi’u dychwelyd.
Cliciwch ar “Add to waitlist” i gael gwybod os bydd ‘na gansladau neu os daw tocynnau ar gael.

Cyflwyniad i Geocelcio i Bawb

Dydd Sadwrn 21ain Mai

Cyflwyniad i Geocelcio i Bawb

Nod y daith gerdded hon ydy rhoi cyflwyniad i ddechreuwyr i geocelcio.  I ddechrau bydd sgwrs fer fydd yn egluro’r gamp, a beth sydd yn digwydd wrth geocelcio.

Wedyn byddwn yn mynd allan i ddarganfod nifer o gelciau (‘caches’) a leolir trwy ddefnydd teclynnau GPS (a raglennir o flaen llaw).  Hefyd byddwn yn defnyddio mapiau a datrys y posau a osodir gan y bobl a osododd y celciau!  Mae’r dasg hon yn ddelfrydol i deuluoedd, achos mae’n fwy fel helfa drysor na thaith gerdded!

Hyd: 4 awr, yn cynnwys y cludiant i’r lleoliad

Pellter: km / 3 milltir

Cyfarfod: 1.15yp yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Gradd: Cymedrol

Arweinydd: Peter Hewlett cyfarwyddwr Geocaching Cymru

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded

Gellir archebu rŵan.

Diwrnod Antur Aml-Weithgaredd

Dydd Gwener 20fed Mai

Diwrnod Antur Aml-Weithgaredd

Noddir y gweithgaredd hwn gan yr Adran Twristiaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Department

CCBC_logo for web

Mae’r diwrnod hwn  – sydd yn cynnig blas ar weithgareddau efo Canolfan Awyr Agored Nant BH – yn cychwyn efo taith gerdded i Lyn Geirionydd ar Drywydd Trefriw 5.  Yma byddwn yn mwynhau padlo mewn caiacau, a chael panad.

I ffwrdd â ni wedyn, i gerdded trwy’r coed i abseilio ar Graig Bwlch yr Haearn cyn gorffen yng Nghanolfan Nant BH am banad arall.  Bydd ‘na gludiant yn ôl i Drefriw.

Hyd: 8 awr

Pellter: 6 Km / 4 milltir

Cyfarfod:  9.00 yh yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)HOA_CALON_ANTUR_GREEN_CMYK_LOGO_FOR_PRINT_HI_RES

Gradd: Cymedrol

Cyfaddasrwydd:  Pawb sydd isio cael blas ar antur!

Arweinydd:  Hyfforddwr o Ganolfan Awyr Agored Nant BH

Darperir offer diogelwch.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Gellir archebu rŵan.

Taidd gerdded “Pot Luck”

Dydd Sul 22ain Mai 2016

Taidd Gerdedd “Pot Luck”

Bob blwyddyn mae pobl yn ceisio bwcio, dim ond i ganfod nad oes lle ar ôl.  Mae hyn yn rhwystredig i gerddwyr ac arweinwyr fel ei gilydd, felly dewch beth bynnag ar y dydd a mentro’ch lwc!

Bydd 3 dewis –

  1. Ymunwch ag un o’r teithiau cerdded (os bydd lle wedi codi ar y munud olaf)
  2. Ymunwch â’n taith ‘pot luck’, a fydd yn daith gerdded diwrnod llawn gan rywun sydd â gwybodaeth leol.
  3. Ewch ar un o Drywyddau Trefriw (cyfres o 8 taith hunan-dywys). Bydd cyfeiriadau – efo map – ar gael ar bapur.

Hyd: Addas i’r grŵp

Pellter: Addas i’r grŵp

Cyafarfod: 09.00 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Cyfaddasrwydd:  i’w osod gan yr arweinydd a’r grŵp ar y dydd

Does dim rhaid bwcio tocyn, ond mae’r amodau bwcio yn dal yn berthnasol i’r daith gerdded hon.

Nodwch os gwelwch yn dda – Bydd Hanner Marathon yn pasio trwy Drefriw ar fore Sul, yr 22ain.  Mae’n bosib bydd ffyrdd lleol ar gau o 8yb ymlaen, ac er bydd mynediad i bobl fydd yn mynychu’r Ŵyl Gerdded, awgrymir y dylech chi adael ychydig mwy o amser ar gyfer eich siwrnai.

Cyfeirleoli a Chlymau

Dydd Sul 22ain Mai 2016

Cyfeirleoli a Chlymau

Byddwn yn cyfarfod yn Neuadd y Pentref am gyflwyniad byr i sgiliau cyfeirleoli cyn cerdded i Lyn Geirionydd, wedyn dros y bryn a thrwy’r goedwig i Lyn Crafnant.  Ar y ffordd bydd cyfle i ymarfer ein sgiliau cyfeirleoli newydd!  Cinio wrth Lyn Crafnant, wedyn bydd ‘na wers fer ar waith rhaff sydd yn addas i gerddwyr yn y mynyddoedd.  Dychwelyd i Drefriw trwy hen felin Klondyke mewn pryd i ymuno â’r Ŵyl Gacennau!

Byddwch chi angen dod â map o’r ardal hon (OS 1:25000 OL17), a chwmpawd hefyd.

Hyd: Trwy’r dydd 6 awr o gerdded

Pellter: 12 km / 9 milltir

Cyfarfod: 0830 yb yn  Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion: Ann Bradshaw ac Andrew Bradshaw, Arweinyddion Mynydd

Cymedrol / Caled

Nodwch os gwelwch yn dda – Bydd Hanner Marathon yn pasio trwy Drefriw ar fore Sul, yr 22ain.  Mae’n bosib bydd ffyrdd lleol ar gau o 8yb ymlaen, ac er bydd mynediad i bobl fydd yn mynychu’r Ŵyl Gerdded, awgrymir y dylech chi adael ychydig mwy o amser ar gyfer eich siwrnai.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Gellir archebu rŵan.

Tryfan a’r Glyderau

Dydd Sadwrn 21ain Mai

Tryfan a’r Glyderau

Bydd y daith gerdded hon yn archwilio rhai ardaloedd o Dryfan a’r Glyderau, ac os bydd tywydd ffafriol byddwn yn taclo rhai o’r sgrialfeydd clasurol fel Crib Ogleddol Tryfan neu Bristly Ridge. Opsiynau haws eraill yn cynnwys y Gribin neu lwybr i gopa’r Garn trwy’r Twll Du. Bydd rhannau lle bydd hi’n serth, creigiog ac agored, felly rhaid bod â phen am uchder. Dewisir y llwybr mwyaf addas ar y diwrnod, yn ôl y tywydd. Rhaid dod â dillad gwyntglos/gwrth-ddŵr ac esgidiau cerdded cryfion.

Hyd: Trwy’r dydd 6 – 7 awr o gerdded

Pellter: 12km / 8 milltir

Cyfarfod:          9.15yb yn  Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i gael cludiant i fan

+++++++++++cychwyn y daith

Maint y grŵp:    2 grŵp o 8

Cyfaddasrwydd:    Cerddwyr profiadol a heini

Arweinwyr:  Mal Creasey, Cyfarwyddwr www.hillskills.org.

  Stiwart Breese, Cyfarwyddwr www.breeseadventures.co.uk

Gradd: Taith Fynydd Galed

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Gellir archebu rŵan.

Cliciwch ar “Add to waitlist” i gael gwybod os bydd ‘na gansladau neu os daw tocynnau ar gael.
Y diweddaraf:   Mae ‘na lefydd ar gael felly rhowch eich enw ar y rhestr aros os ydach chi isio siawns o gael tocynnau sy wedi’u dychwelyd.

O Gnu i Ffabrig

Dydd Gwener 20fed Mai

O Gnu i Ffabrig

Taith gydag arweinydd o gwmpas Melin Wlân Trefriw. Fe gewch weld sut y gwneir gorchuddion gwely a dillad brethyn o’r gwlân crai.

Hyd: 1 awr

Pellter: O gwmpas adeiladau’r felin, 2 res o risiau

Cyfarfod: 9.45 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Gradd: Hawdd 

Arweinydd: Elaine Williams Cyfarwyddwr Melin Wlan Trefriw

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Gellir archebu rŵan.

Dan Y Rhwymynnau

Dydd Sadwrn 21ain Mai

O Dan Y Rhwymynnau

Bydd y daith gerdded hon (efo gwirfoddolwyr o Gymdeithas Ambiwlans Sant Ioan) yn dangos i chi sut i ddelio â rhai o’r anffodion a damweiniau bach mwya cyffredin pan yn cerdded, e.e. pigiadau, crafiadau a ffêr wedi’i throi.  Byddwn wedyn yn dychwelyd i’r Neuadd i ddarganfod – o’r tu mewn – sut mae creu a ffugio anafusion er mwyn paratoi at Ddigwyddiadau Argyfwng Mawr.  A rhowch gynnig arni eich hun!

Hyd: Trwy’r dydd, 5 awr

Pellter: 5km / 3 milltir

Cyfarfod: 10.00 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Gradd: Hawdd 

Maint y grŵp:    12

Cyfaddasrwydd:   Pawb, gan gynnwys teuluoedd

Arweinydd:           Bernard Owen o ‘Snowdonia Safaris’

Gwirfoddolwyr efo Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan: Christine Townley, Michael Evans, Louise Fitzgerald

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Gellir archebu rŵan.

Deg Llyn

Dydd Sadwrn 21ain Mai

Deg Llyn

Diwrnod llawn fydd yn mynd â ni i Goedwig Gwydir er mwyn ymweld â 10 llyn sydd yn yr ardal.

Y daith gerdded hon ydy’r un hiraf yn yr Ŵyl Gerdded eleni.

Gan gychwyn a gorffen efo Llynnoedd Geirionydd a Chrafnant, y llynnoedd mwyaf adnabyddus yn yr ardal, bydd y daith hir hon yn ymweld â 10 llyn yng Nghoedwig Gwydir.  Mae gan lawer ohonynt gysylltiad efo mwyngloddiau metel yr ardal.  Mae’r llwybrau hefyd yn pasio trwy rannau uchel o’r goedwig sydd â golygfeydd gwych o’r mynyddoedd.  Byddwn yn cerdded ar gyflymdra hamddenol, ac yn defnyddio llawer o lwybrau da yn y goedwig.  Gradd y daith ydy “Cymedrol / Caled” dim ond oherwydd ei hyd. Byddwn ni’n pasio toiledau ar ôl 2½ milltir, 10½ milltir a 12½ milltir.

Hyd: Trwy’r dydd 7 – 8 awr o gerdded

Pellter: 24 km / 15 milltir

Cyfarfod: 9.15 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Arweinyddion: Tony Ellis awdur pedwar llyfr cerdded lleol, a Warden Gwirfoddol ar yr Wyddfa

++++++++++++Colin Boyd arbenigwr mewn Addysg Awyr Agored

Gradd: Cymedrol / Caled

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Gellir archebu rŵan

Sgrialu Ceunant i Blant

Dydd Sadwrn 21ain Mai

Sgrialu Ceunant i Blant

Mae sgrialu ceunant yn weithgaredd llawn hawl sydd yn golygu naill ai’n mynd i fynd neu i lawr ceunant a rhaeadrau, neidiau i mewn i blymbyllau, a hefyd sleidiau, yn un o’r llefydd hardda a mwyaf arbennig yng Ngogledd Cymru – naill ai yng Ngheunant Afon Ddu neu yng Ngheunant Afon Geirionydd. Darperir pob cyfarpar diogelwch ar y cyd â siwtiau gwlyb 5mm (dwedwch eich maint wrth fwcio – S,M,L,XL), helmedau a harneisiau.

Dewch â dillad nofio, tywel, a hen drêners/esgidiau (fydd yn mynd yn wlyb).

Hyd: Bore 3.5 awr + hyd y daith yn y car

Pellter: 3km / 2 filltir

Cyafarfod: 9.00yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i gael eich geriach, wedyn siwrnai fer mewn ceir i gychwyn y sgrialu.

Gradd: Hawdd 

Arweinydd: Andy Jones, Seren Ventures

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Gellir archebu rŵan.

Taidd Gerdded “Pot Luck”

Dydd Sadwrn 21ain Mai

“Pot Luck” – Sadwrn

Bob blwyddyn mae pobl yn ceisio bwcio, dim ond i ganfod nad oes lle ar ôl.  Mae hyn yn rhwystredig i gerddwyr ac arweinwyr fel ei gilydd, felly dewch beth bynnag ar y dydd a mentro’ch lwc!

Bydd 3 dewis –

  1. Ymunwch ag un o’r teithiau cerdded (os bydd lle wedi codi ar y munud olaf)
  2. Ymunwch â’n taith ‘pot luck’, a fydd yn daith gerdded diwrnod llawn gan rywun sydd â gwybodaeth leol.
  3. Ewch ar un o Drywyddau Trefriw (cyfres o 8 taith hunan-dywys).  Bydd cyfeiriadau – efo map – ar gael ar bapur.

Hyd:   Addas i’r grŵp

Pellter: Addas i’r grŵp

Cyafarfod: 09.00 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)

Cyfaddasrwydd:  i’w osod gan yr arweinydd a’r grŵp ar y dydd

Does dim rhaid bwcio tocyn, ond mae’r amodau bwcio yn dal yn berthnasol i’r daith gerdded hon.

Sgrialu Ceunant i’r mentrus

Dydd Sul 22ain Mai

Sgrialu Ceunant i’r mentrus

Mae sgrialu ceunant yn weithgaredd llawn hawl sydd yn golygu naill ai’n mynd i fyny neu i lawr ceunant a rhaeadrau, neidiau i mewn i blymbyllau, a hefyd sleidiau, yn un o’r llefydd hardda a mwyaf arbennig yng Ngogledd Cymru – naill ai yng Ngheunant Afon Ddu neu yng Ngheunant Afon Geirionydd. Darperir pob cyfarpar diogelwch ar y cyd â siwtiau gwlyb 5mm (dwedwch eich maint wrth fwcio – S,M,L,XL), helmedau a harneisiau.

Dewch â dillad nofio, tywel, a hen drêners/esgidiau (fydd yn mynd yn wlyb)

Hyd: Bore 3.5 awr

Pellter: 3km / 2 filltir

Cyfarfod: 9.00 yb yn Neuadd Bentref Trefriw i gael eich geriach, wedyn mynd yn eich car eich hun neu rannu ceir; mae’n siwrnai fer i sgrialu

Arweinydd: Andy Jones, Seren Ventures

Hawdd / Cymedrol