Diwrnod Antur Aml-Weithgaredd

 

Dydd Gwener 20fed Mai

Diwrnod Antur Aml-Weithgaredd

Noddir y gweithgaredd hwn gan yr Adran Twristiaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Department

CCBC_logo for web

Mae’r diwrnod hwn  – sydd yn cynnig blas ar weithgareddau efo Canolfan Awyr Agored Nant BH – yn cychwyn efo taith gerdded i Lyn Geirionydd ar Drywydd Trefriw 5.  Yma byddwn yn mwynhau padlo mewn caiacau, a chael panad.

I ffwrdd â ni wedyn, i gerdded trwy’r coed i abseilio ar Graig Bwlch yr Haearn cyn gorffen yng Nghanolfan Nant BH am banad arall.  Bydd ‘na gludiant yn ôl i Drefriw.

Hyd: 8 awr

Pellter: 6 Km / 4 milltir

Cyfarfod:  9.00 yh yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)HOA_CALON_ANTUR_GREEN_CMYK_LOGO_FOR_PRINT_HI_RES

Gradd: Cymedrol

Cyfaddasrwydd:  Pawb sydd isio cael blas ar antur!

Arweinydd:  Hyfforddwr o Ganolfan Awyr Agored Nant BH

Darperir offer diogelwch.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Gellir archebu rŵan.