Dydd Sadwrn 21ain Mai
Tryfan a’r Glyderau
Bydd y daith gerdded hon yn archwilio rhai ardaloedd o Dryfan a’r Glyderau, ac os bydd tywydd ffafriol byddwn yn taclo rhai o’r sgrialfeydd clasurol fel Crib Ogleddol Tryfan neu Bristly Ridge. Opsiynau haws eraill yn cynnwys y Gribin neu lwybr i gopa’r Garn trwy’r Twll Du. Bydd rhannau lle bydd hi’n serth, creigiog ac agored, felly rhaid bod â phen am uchder. Dewisir y llwybr mwyaf addas ar y diwrnod, yn ôl y tywydd. Rhaid dod â dillad gwyntglos/gwrth-ddŵr ac esgidiau cerdded cryfion.
Hyd: Trwy’r dydd 6 – 7 awr o gerdded
Pellter: 12km / 8 milltir
Cyfarfod: 9.15yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i gael cludiant i fan
cychwyn y daith
Maint y grŵp: 2 grŵp o 8
Cyfaddasrwydd: Cerddwyr profiadol a heini
Arweinwyr: Mal Creasey, Cyfarwyddwr www.hillskills.org.
Stiwart Breese, Cyfarwyddwr www.breeseadventures.co.uk
Gradd: Taith Fynydd Galed
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Gellir archebu rŵan.