Dydd Sul 22ain Mai 2016
Cyfeirleoli a Chlymau
Byddwn yn cyfarfod yn Neuadd y Pentref am gyflwyniad byr i sgiliau cyfeirleoli cyn cerdded i Lyn Geirionydd, wedyn dros y bryn a thrwy’r goedwig i Lyn Crafnant. Ar y ffordd bydd cyfle i ymarfer ein sgiliau cyfeirleoli newydd! Cinio wrth Lyn Crafnant, wedyn bydd ‘na wers fer ar waith rhaff sydd yn addas i gerddwyr yn y mynyddoedd. Dychwelyd i Drefriw trwy hen felin Klondyke mewn pryd i ymuno â’r Ŵyl Gacennau!
Byddwch chi angen dod â map o’r ardal hon (OS 1:25000 OL17), a chwmpawd hefyd.
Hyd: Trwy’r dydd 6 awr o gerdded
Pellter: 12 km / 9 milltir
Cyfarfod: 0830 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinyddion: Ann Bradshaw ac Andrew Bradshaw, Arweinyddion Mynydd
Cymedrol / Caled
Nodwch os gwelwch yn dda – Bydd Hanner Marathon yn pasio trwy Drefriw ar fore Sul, yr 22ain. Mae’n bosib bydd ffyrdd lleol ar gau o 8yb ymlaen, ac er bydd mynediad i bobl fydd yn mynychu’r Ŵyl Gerdded, awgrymir y dylech chi adael ychydig mwy o amser ar gyfer eich siwrnai.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Gellir archebu rŵan.