Dros y Topiau

 

Dydd Sul 22ain Mai

Dros y Topiau

Taith o Gapel Curig i Drefriw dros gopâu megis y Crimpiau, Craig Wen a’r Creigiau Gleision. Bydd y tir yn arw dan draed, efo llwybrau cul, a bydd rhai o’r dringo’n serth. Byddwn yn ôl mewn pryd i ymuno â’r Ffair Gacennau yn y Neuadd Bentref.

Hyd: Trwy’r dydd 6 awr o gerdded

Pellter: 13km / 8 milltir

Cyfarfod: 8.45yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631), ar gyfer cludiant i Gaffi Siabod, man cychwyn y daith

Taith Fynydd Galed

Nodwch os gwelwch yn dda – Bydd Hanner Marathon yn pasio trwy Drefriw ar fore Sul, yr 22ain.  Mae’n bosib bydd ffyrdd lleol ar gau o 8yb ymlaen, ac er bydd mynediad i bobl fydd yn mynychu’r Ŵyl Gerdded, awgrymir y dylech chi adael ychydig mwy o amser ar gyfer eich siwrnai.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Gellir archebu rŵan.