Olion Llwybr y Porthmyn

 

Dydd Sadwrn 21ain Mai

Olion Llwybr y Porthmyn

Taith gerdded ar hyd y mynyddoedd o Gapel Curig i Drefriw sy’n dilyn hen lwybrau’r porthmyn. Dyma gyfle gwych i glywed hen hanesion am y porthmyn ac i ddysgu mwy am fywyd gwyllt a hanes yr ardal.

Hyd: Trwy’r dydd 5 awr o gerdded

Pellter: 10km / 6.5 milltir

Cyfarfod: 9:45 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)wedyn dal cludiant i Gaffi Siabod man cychwyn y daith.

Arweinyddion: Dave Prime, arweinydd efo Cerdded Conwy

+++++++++++  Jim Black Y Gymdeithas Hanes Lleol

Gradd: Cymedrol

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.

Gellir archebu rŵan