Contents
Dydd Sadwrn 21ain Mai
Deg Llyn
Diwrnod llawn fydd yn mynd â ni i Goedwig Gwydir er mwyn ymweld â 10 llyn sydd yn yr ardal.
Y daith gerdded hon ydy’r un hiraf yn yr Ŵyl Gerdded eleni.
Gan gychwyn a gorffen efo Llynnoedd Geirionydd a Chrafnant, y llynnoedd mwyaf adnabyddus yn yr ardal, bydd y daith hir hon yn ymweld â 10 llyn yng Nghoedwig Gwydir. Mae gan lawer ohonynt gysylltiad efo mwyngloddiau metel yr ardal. Mae’r llwybrau hefyd yn pasio trwy rannau uchel o’r goedwig sydd â golygfeydd gwych o’r mynyddoedd. Byddwn yn cerdded ar gyflymdra hamddenol, ac yn defnyddio llawer o lwybrau da yn y goedwig. Gradd y daith ydy “Cymedrol / Caled” dim ond oherwydd ei hyd. Byddwn ni’n pasio toiledau ar ôl 2½ milltir, 10½ milltir a 12½ milltir.
Hyd: Trwy’r dydd 7 – 8 awr o gerdded
Pellter: 24 km / 15 milltir
Cyfarfod: 9.15 yb yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Arweinyddion: Tony Ellis awdur pedwar llyfr cerdded lleol, a Warden Gwirfoddol ar yr Wyddfa
Colin Boyd arbenigwr mewn Addysg Awyr Agored
Gradd: Cymedrol / Caled
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Gellir archebu rŵan