Contents
Dydd Sadwrn 21ain Mai
Cyflwyniad i Geocelcio i Bawb
Nod y daith gerdded hon ydy rhoi cyflwyniad i ddechreuwyr i geocelcio. I ddechrau bydd sgwrs fer fydd yn egluro’r gamp, a beth sydd yn digwydd wrth geocelcio.
Wedyn byddwn yn mynd allan i ddarganfod nifer o gelciau (‘caches’) a leolir trwy ddefnydd teclynnau GPS (a raglennir o flaen llaw). Hefyd byddwn yn defnyddio mapiau a datrys y posau a osodir gan y bobl a osododd y celciau! Mae’r dasg hon yn ddelfrydol i deuluoedd, achos mae’n fwy fel helfa drysor na thaith gerdded!
Hyd: 4 awr, yn cynnwys y cludiant i’r lleoliad
Pellter: 5 km / 3 milltir
Cyfarfod: 1.15yp yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Gradd: Cymedrol
Arweinydd: Peter Hewlett cyfarwyddwr Geocaching Cymru
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth a’r amodau archebu cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded
Gellir archebu rŵan.