Dydd Sadwrn 20 Mai, 2023
Moel Siabod
Mae hon yn gylchdaith heriol sy’n cychwyn o Bont Cyfyng, ger Capel Curig. Byddwn yn esgyn Moel Siabod ar ei chrib dwyreiniol, lle bydd ‘na elfen o sgramblo o Lyn y Foel i’r copa. O’r copa (2861’ / 872m) mae ‘na olygfeydd da i bob cyfeiriad o fynyddoedd gogledd Eryri, yn enwedig o Bedol Yr Wyddfa. Byddwn yn disgyn i Blas y Brenin i lawr cefn llydan Siabod, wedyn dilyn Afon Llugwy yn ôl i Bont Cyfyng.
Byddwn yn teithio i Bont Cyfyng ac yn ôl yn ein minibws.
Cofiwch – weithiau mae’n oer yn y mynyddoedd, hyd yn oed ym mis Mai, felly gwnewch yn siwr bod chi’n gwisgo esgidiau da, a bod gynnoch chi ddillad cynnes a gwrth-ddŵr, gan gynnwys het a menig.
Hyd: Trwy’r dydd. Dewch â phecyn bwyd.
Pellter: tua 7 milltir / 11 km
Gradd: Taith fynydd gymedrol/lafurus efo rhyw 2,500′ (760m) o esgyniad.
Amser ymadael: 09:00 y.b. o Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631)
Bydd te a chacen ar gael yn y Neuadd o flaen ac ar ôl eich taith. (Gweler ein caffi.) Croeso i chi aros a chymdeithasu.
Arweinwyr: Keith Hulse & Paul Newell
Cliciwch ar y map i weld bras leoliad y daith gerdded hon.
Archebu: I archebu lle, cliciwch ar y botwm Eventbrite isod (a fydd yn agor tab newydd).
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y wybodaeth archebu, amodau a thelerau cyn i chi fynychu unrhyw daith gerdded.
Sylwer: Er na fyddwn ni’n codi tâl am ein teithiau cerdded, byddwn yn gofyn am rodd wirfoddol (pres parod neu gerdyn). Mwy o fanylion ar ein tudalen ariannu.